Mae unrhyw beth yn bosib gyda’r dechnoleg ddiweddara!

Mae unrhyw beth yn bosib – dyna un peth ddysgon ni ar stondin Bro360 yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst.

Lowri Jones
gan Lowri Jones

“Mae unrhyw beth yn bosib gyda’r dechnoleg ddiweddara!”

Dyna un peth ddysgon ni ar stondin Bro360 yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst.

Gobeithio bod brwdfrydedd y criw ddaeth i gynnal sesiynau digidol gyda ni bob pnawn yn ysbrydoliaeth i ni fynd ati i gydio yn y cyfryngau rhad a rhwydd sydd ar gael er mwyn gwneud gwahaniaeth i’n bro.

Cadwch lygad ar gyfryngau Bro360 – bydd yr holl tips am sut mae creu
– posteri deniadol,
– fideos byr,
– podcasts newydd, a
– GIFs Cymraeg
yn cael eu rhannu’n fuan!

Diolch yn dalpe i Iwan Standley, Daf Owain, Chris a Geth (Sôn am Sîn), Gwenlli a Cadi (BROCast).

Os hoffech drefnu sesiwn hyfforddiant ar rhyw elfen ddigidol, cofiwch gysylltu â Bro360.

Sesiwn ar greu podcasts gan Chris a Geth, sy’n creu podcast Sôn am Sîn
Creu posteri digidol deniadol gan y dylunydd Daf Owain