gan
Lowri Jones
Ydych chi erioed wedi ceisio ffilmio rhywbeth ar y ffôn, ond yn gweld bod eich braich yn mynd yn dost ar ôl dal y ffôn am amser hir?!
Wel, mae angen tripod arnoch chi.
Maen nhw ar gael yn ddigon rhad, ac yn gallu cael eu haddasu i ffitio’r math o ffôn sydd gennych. Dyma 3 tip ar gyfer defnyddio tripod (o brofiad pethau’n mynd o’i le yn y gorffennol!):
- Cymerwch ofal gyda’r darn bach sy’n dal y ffôn. Mae angen sgriwio hwn i dop y tripod, yna agor y clasbyn i ddal y ffôn. Ond gwyliwch beidio â chau’r clasbyn dros un o fotymau’r ffôn, neu gall ddiffodd yn sydyn!
- Addaswch y cyfeiriad y mae’r ffôn yn pwyntio at yr hyn rydych am ei ffilmio. Efallai na fydd angen codi’r coesau i’w llawn maint, os bydd newid ongl y ffôn yn fwy effeithiol.
- Os ydych chi yng nghanol cynulleidfa, gosodwch y tripod yn lle un o’r cadeiriau, er mwyn gwneud yn siŵr na fydd neb yn baglu drosto. A cheisiwch annog pobol i beidio eistedd yn syth o’ch blaen!