Tips360 #12 – Sut mae symud ffeiliau MAWR o un teclyn i’r llall?

Ydych chi erioed wedi cael trafferth trosglwyddo fideos at rywun arall?

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Beth yw’r niwsens mwya wrth greu cynnwys digidol?

Anfon ffeils mawr (ee fideos) at rywun arall, er mwyn iddyn nhw eu golygu / lanlwytho / rhannu Bydden ni yn Bro360 yn cytuno i’r carn! Felly, ry’n ni am rannu 3 ffordd rad ac am ddim o symud ffeiliau o un person i’r llall.

O Apple i Apple *iPhone, iPod, iPad, Mac)

1. AirDrop > cyflym, dim angen Wifi, mae angen i’r ddau declyn fod yn yr un ystafell.

Rhwng Android / Apple / PC

2. Gwefan WeTransfer > anfon hyd at 2 GB ar y tro, angen cysylltiad da â’r we, a bydd y person sy’n derbyn yn cael ebost a dolen i lawrlwytho’r ffeil.

3. Google Drive > angen cysylltiad we, angen cyfrif Google ar y person sy’n anfon, a bydd y person sy’n derbyn yn cael dolen trwy ebost.