gan
Lowri Jones
Beth yw’r niwsens mwya wrth greu cynnwys digidol? ?
Anfon ffeils mawr (ee fideos) at rywun arall, er mwyn iddyn nhw eu golygu / lanlwytho / rhannu Bydden ni yn Bro360 yn cytuno i’r carn! Felly, ry’n ni am rannu 3 ffordd rad ac am ddim o symud ffeiliau o un person i’r llall.
O Apple i Apple *iPhone, iPod, iPad, Mac)
1. AirDrop > cyflym, dim angen Wifi, mae angen i’r ddau declyn fod yn yr un ystafell.
Rhwng Android / Apple / PC
2. Gwefan WeTransfer > anfon hyd at 2 GB ar y tro, angen cysylltiad da â’r we, a bydd y person sy’n derbyn yn cael ebost a dolen i lawrlwytho’r ffeil.
3. Google Drive > angen cysylltiad we, angen cyfrif Google ar y person sy’n anfon, a bydd y person sy’n derbyn yn cael dolen trwy ebost.