Tips360 #9 – Ble mae’r ap recordio sain?

Yr ap sydd ei angen i recordio clip sain – ar iPhone ac Android

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Mae creu clip sain weithiau’n fwy addas na fideo.

Mae’n cymryd llai o le ar dy ffôn, gelli di ei drosglwyddo o un teclyn i’r llall yn gynt, a gall fod yn well ar gyfer recordio cerddoriaeth, perfformiadau a chyfweliadau.

Dyma ble mae cael gafael ar yr ap recordio sain ar dy ffôn: