Tips360 #11 – Sut mae galluogi tîm o bobol i reoli cyfrif YouTube?

6 cham i greu cyfrif ‘brand’ i’ch clwb neu gymdeithas.

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Os ydych chi am greu cyfri YouTube i’ch clwb neu gymdeithas lleol, sut mae rhannu’r baich a rhoi’r hawl i fwy nag un aelod lwytho fideos i’r cyfri HEB rannu eich cyfrinair â phawb?

Yr ateb > creu cyfrif brand.

  1. Crëa gyfrif Google i dy glwb / cymdeithas.
  2. Cer i dudalen y cyfrif ar YouTube, a phwyso’r botwm i greu sianel ‘brand’ newydd.
  3. Crëa enw i’r sianel. Does dim rhaid cael 2 air yn unig (fel sydd ei angen wrth greu sianel bersonol).
  4. Gelli di osod logo neu lun clawr i’r sianel.
  5. Clicia ar dy sianel > gosodiadau > ychwanegu rheolwyr > rheoli caniatadau; a gwahodd aelodau o dy glwb i reoli’r cyfrif (gan ddefnyddio eu cyfeiriad ebost personol)
  6. A dyna ni! Bydd tîm ohonoch yn gallu llwytho fideos unrhyw bryd!