gan
Lowri Jones
Os ydych chi am greu cyfri YouTube i’ch clwb neu gymdeithas lleol, sut mae rhannu’r baich a rhoi’r hawl i fwy nag un aelod lwytho fideos i’r cyfri HEB rannu eich cyfrinair â phawb?
Yr ateb > creu cyfrif brand.
- Crëa gyfrif Google i dy glwb / cymdeithas.
- Cer i dudalen y cyfrif ar YouTube, a phwyso’r botwm i greu sianel ‘brand’ newydd.
- Crëa enw i’r sianel. Does dim rhaid cael 2 air yn unig (fel sydd ei angen wrth greu sianel bersonol).
- Gelli di osod logo neu lun clawr i’r sianel.
- Clicia ar dy sianel > gosodiadau > ychwanegu rheolwyr > rheoli caniatadau; a gwahodd aelodau o dy glwb i reoli’r cyfrif (gan ddefnyddio eu cyfeiriad ebost personol)
- A dyna ni! Bydd tîm ohonoch yn gallu llwytho fideos unrhyw bryd!