Tips360 #24 – ’diolch’ am stori

Pwyswch y botwm er mwyn ’diolch’ i’ch gohebwyr bro ?

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Wel, dyna ni. Ry’n ni wedi rhannu 23 tip digidol amrywiol gyda chi dros gyfnod yr adfent – o sut mae gwneud y mwya’ o aps fel iMovie ac Instagram, i sut mae trosglwyddo ffeiliau mawr a hyrwyddo digwyddiad ar wefan fro!

Dim ond un tip bach sydd ar ôl nawr, sef ’diolch’.

Mae 3 gwefan straeon lleol newydd wedi’u creu yn ystod 2019 yn Arfon a gogledd Ceredigion (a mwy i ddod flwyddyn nesa!), a phobol leol (fel chi!) sy’n creu’r straeon lleol ar eu cyfer.

Felly os welwch chi stori dda, cofiwch bwyso’r botwm ’diolch’ ar y gwaelod (a chreu cyfri’n sydyn er mwyn gwneud hynny). Bydd y gohebydd bro yn falch iawn eich bod chi wedi mwynhau’r stori ?