Croeso i’ch gwefan fro!
A’r peth gorau amdani? Gallwch chi – pob un ohonoch chi – greu a chyhoeddi eich straeon eich hunan.
Dyma eich lle chi i rannu unrhyw beth sy’n bwysig am eich bro ar-lein, felly ewch amdani ac arbrofwch!
Ddim yn siŵr beth i’w sgwennu? Dyma ambell syniad i’ch helpu i roi cynnig arni…
1. Sylw i ddigwyddiad lleol
Mae diddordeb mawr mewn be sy mlaen yn lleol. Mae nodwedd unigryw ar y ffordd i’r wefan hon yn fuan iawn, lle bydd modd i chi hysbysebu eich digwyddiad ar galendr digidol eich gwefan fro. Ond yn y cyfamser, beth am greu stori am ddigwyddiad fuoch chi ynddi’n ddiweddar?
SYNIADAU AM STORI: Fuoch chi wrthi’n trefnu cyngerdd neu noson codi arian? A wnaethoch chi fwynhau gig neu ddarlith?
SYNIADAU AM GYFRYNGAU: Creu oriel luniau o’r digwyddiad; sgwennu adroddiad cryno; rhannu blog i adolygu’r gig; recordio trac sain o’r ddarlith a’i rhannu â phawb oedd methu bod yno…
ENGHRAIFFT: Stori am gyfleuster wifi ar y stryd, sydd ar ddod i Fethesda ar Ogwen360.
2. Dod â chystadleuaeth yn fyw
Pa mor aml ydych chi’n checio’ch ffôn i weld sgôr diweddara eich clwb lleol? Mae gallu rhannu newyddion ar-y-funud yn un o brif rinweddau’r we, a gall eich gwefan fro fod yn blatfform i roi sylw teilwng i gemau chwaraeon lleol, eisteddfodau bach, cystadlaethau mudiadau ieuenctid a llawer mwy.
SYNIADAU AM STORI: Sgôr, sgorwyr a manylion darbi fawr y penwythnos yn y byd chwaraeon; canlyniadau a chyfweliadau â chystadleuwyr, beirniaid a chynulleidfa eisteddfodau bach; holl fwrlwm Rali’r CFfI ac eisteddfodau’r Urdd…
SYNIADAU AM GYFRYNGAU: Fideo uchafbwyntiau o goliau eich clwb; fideos a thraciau sain o brif gystadlaethau eich steddfod fach, gan gynnwys yr eitemau llenyddol; blog byw ar ddiwrnod y cystadlu…
ENGHRAIFFT: Stori sy’n crynhoi uchafbwyntiau Eisteddfod Cwmystwyth ar BroAber360.
3. Dathlu ein pobol ni
Beth yw bro heb ei phobol? Mae arwyr ym mhob bro – y bobol hynny sy’n mentro, yn llwyddo yn eu maes, neu’n gweithio’n ddiflino dros gymdeithas arbennig. Efallai na fydden nhw’n cael sylw ar lefel genedlaethol, ond mae’n werth eu dathlu a rhannu eu stori – ac mae’r wefan fro yn lle delfrydol i wneud hynny.
SYNIADAU AM STORI: Teyrnged i berson adnabyddus yn lleol; cyfweliad â rhywun sy’n creu rhywbeth newydd; stori am lwyddiant; dod i adnabod person a’i swydd; cyfarchion.
SYNIADAU AM GYFRYNGAU: Testun a lluniau; cyfweliad fideo neu sain; cyfres o gwestiynau ac atebion; vlog neu ddyddiadur fideo gan rywun sy’n cyflawni camp.
ENGHRAIFFT: Stori am lwyddiant dyn lleol mewn sioe flodau ar DyffrynNantlle360.
Mwy
Dyna rai syniadau i roi blas i chi o’r hyn sy’n bosib ar eich gwefan fro.
Wrth i ni ddatblygu’r rhwydwaith o wefannau dros y misoedd nesa, bydd mwy a mwy o nodweddion yn dod ar gael, felly cadwch lygad mas am y datblygiadau neu cofrestrwch i dderbyn egylchlythyr misol gennym yma.
Os os hoffech gael cymorth neu rhywbeth gwahanol, mae croeso i chi gysylltu â Lowri (Cydlynydd y Prosiect), Daniel (Ysgogydd Bro360 yng ngogledd Ceredigion) neu Guto (Ysgogydd Bro360 yn ardal Arfon)!
Pob hwyl gyda’r creu!