‘Swyddog Bro360’ cynta’r clybiau

Elen Williams o Bantglas yw Swyddog Bro360 cynta Cymru!

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Elen Williams o Bantglas yw Swyddog Bro360 cynta Cymru!

Cafodd ei hethol i’r swydd yn ystod cyfarfod Clwb Ffermwyr Ifanc Dyffryn Nantlle y mis yma (Medi).

Mae’n gyfrifol am ddefnyddio gwefan fro dyffrynnantlle360.cymru i hyrwyddo gweithgareddau a rhannu straeon y clwb am y flwyddyn sydd i ddod.

Mae hefyd yn rhan o griw llywio’r wefan fro, sy’n cwrdd yn achlysurol i gael cymorth a hyfforddiant, ac i rannu syniadau am anghenion y gwasanaeth newydd a .

A hoffai eich clwb neu’ch mudiad chi gael Swyddog Bro360?

Cysylltwch â Lowri ar lowrijones@golwg.com i gael rhagor o fanylion am sut gallwch chi fanteisio ar y cyfrwng newydd.