Sgwrs dros beint yn cymell syniadau cyffrous

Maen nhw’n dweud bod y syniadau gorau’n datblygu dros beint yn y pyb…

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Maen nhw’n dweud bod y syniadau gorau’n datblygu dros beint yn y pyb.

A phan gynhaliodd Bro360 ‘Sgwrs dros Beint’ yn Nhafarn Glyntwrog ar nos Lun 30 Medi gyda chriw o bobol ifanc o fröydd Caernarfon a’r Wyddfa, cafodd rhai o’r syniadau gorau i ni eu clywed hyd yn hyn yn oes y prosiect eu rhannu â ni… wedi’u sgriblo ar fatiau cwrw!

Y dasg oedd meddwl pa bethau sydd eu HANGEN ar y fro er mwyn gwneud gwahaniaeth i’n cymdeithas? Ac yna, pa BOTENSIAL mae cyfryngau digidol heddiw’n eu cynnig i ni?

Dyma 10 syniad gwahanol gafodd eu cynnig gan y criw y noson honno. Ond ry’n ni wedi cymysgu’r drefn! Ydych chi’n gallu dyfalu pa gynnwys sy’n ffitio’n dwt gyda pha gyfryngau?

Dilynwch Bro360 ar Twitter, Instagram neu Facebook i ddarganfod yr atebion dros y dyddiau nesa!