Ymunwch â’n blog byw i gael y straeon diweddara o fferm Ynysforgan, wrth i aelodau CFfI Ceredigion ymweld â Lledrod.
Un o gystadlaethau mwya gwahanol y rali eleni yw ‘Tro ar Hwiangedd’.
Roedd 7 clwb yn cystadlu eleni, o flaen tyrfa fawr yn Ynysforgan, a dyma rai lluniau.
Odi chi’n gallu dyfalu pa hwiangerdd oedd gan bob clwb?!
Ffermwr Ifanc y Flwyddyn, Endaf Griffiths o glwb Pontsian, yn rhoi ei araith ar y llwyfan.
CANLYNIAD!
Cystadleuaeth y sioe ffasiwn:
1af: CFfI Llangeitho
2il: CFfi Llangwyryfon
3ydd: CFfI Tregaron
CANLYNIAD!
Cystadleuaeth eitem i gyfleu hwiangerdd:
1af: Carwyn a Meinir Davies, Clwb Llanwenog
2il: Rhiannon Davies a Hwen Morris, Clwb Caerwedros
3ydd: Lowri a Dion Davies, Clwb Mydroilyn
CANLYNIAD!
Cystadleuaeth y crefft:
1af: Alaw Jones o Glwb Felinfach
2il: Bleddyn Jones o Glwb Llanwenog
3ydd: Seren Pugh, Clwb Tal-y-bont
CANLYNIAD!
Llongyfarchiadau i CFfI Felinfach am ennill y dawnsio! Llanwenog yn ail a Thregaron yn 3ydd.
CANLYNIAD
Dawnsio
1af – CFfI Felinfach
2il – CFfI Llanwenog
3ydd – CFfI Tregaron
Cystadleuaeth y Sioe Ffasiwn – y gofynion oedd addasu dwy wisg ar gyfer dawns tylwyth teg.
Mae pethau'n poethi yn #ralicardi @CeredigionYFC ?
A dim jyst y cystadlu – odi, mae'r ? yn dechrau ymddangos drwy'r cymylau hefyd!
Dilynwch hynt a helynt yr holl aelodau ar flog byw o'r dydd ???
Rhannwch! ?https://t.co/BbRkgdwLeC
— ? Bro360 (@Bro__360) June 1, 2019
Mae Dafydd, un o’n gohebyddion bro ar y cae heddi, wrthi’n brysur yn rhannu straeon CFfI Troed-yr-aur.
Aelodau yn cystadlu yn y Sioe Fasiwn Bro360
Posted by Ffrindiau C.Ff.I Troedyraur on Saturday, 1 June 2019