Rali Clybiau Ffermwyr Ifanc Ceredigion

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Ymunwch â’n blog byw i gael y straeon diweddara o fferm Ynysforgan, wrth i aelodau CFfI Ceredigion ymweld â Lledrod.

13:25

CANLYNIAD!

Llongyfarchiadau i CFfI Felinfach am ennill y dawnsio! Llanwenog yn ail a Thregaron yn 3ydd.

 

 

 

12:25

CANLYNIAD

Dawnsio

1af – CFfI Felinfach

2il – CFfI Llanwenog

3ydd – CFfI Tregaron

12:23

Cystadleuaeth y Sioe Ffasiwn – y gofynion oedd addasu dwy wisg ar gyfer dawns tylwyth teg.

CFfI Mydroilyn yn agor y gystadleuaeth.

 

CFfI Llangeitho y nesa fyny.

 

CFfI Troedyraur oedd y drydedd i gystadlu.

 

Pedwerydd i fynd oedd CFfI Llangwyryfon.

 

CFfI Tregaron yn cloi’r gystadleuaeth.

 

11:39

11:33

Mae Dafydd, un o’n gohebyddion bro ar y cae heddi, wrthi’n brysur yn rhannu straeon CFfI Troed-yr-aur.

Aelodau yn cystadlu yn y Sioe Fasiwn Bro360

Posted by Ffrindiau C.Ff.I Troedyraur on Saturday, 1 June 2019

11:31

11:31

11:29

Cystadleuaeth y dawnsio yn “ffwl swing” yn un o’r siedau, wrth i glybiau Llanddewi Brefi, Llanwenog, Tregaron, Felinfach a Phenparc gystadlu.

Y gofynion eleni yw perfformio dawns o sioe gerdd, a dawns arall gyferbyniol. Y beirniaid yw’r chwiorydd Anna a Gwenith ap Robert.

Dyma gip o griw ifanc Clwb Felinfach yn joio!

11:26

Dim canlyniadau fan hyn eto…ond mewn rhai oriau bydd tyrfa fowr o gwmpas yr hysbysfwrdd canlyniadau, wrth i bawb geisio dyfalu “pwy sy’n mynd â hi eleni?”!

11:24

Rhai o’r bobol brysuraf heddi – a dros yr wythnosau dwetha – yw aelodau a chefnogwyr CFfI Lledrod.

Mae oriau ac oriau o baratoi wedi bod er mwyn cynnal y rali yn Ynysforgan eleni, 27 mlynedd ers y tro diwethaf i’r clwb gynnal uchafbwynt calendr y CFfI.

Dyma rai o’r stiwardiaid wrth eu gwaith!

(Ac os oes da chi lygaid craff – fe welwch chi feirniaid y ‘rwm fach’ yn tafoli yn y cefen!)