Pnawn da o Rali CFfI Eryri!
Lluniau, fideos, canlyniadau a’r straeon diweddara – daw aelodau Clybiau Eryri a’r cyfan yn fyw i chi heddiw ar flog byw cynta Bro360.
Felly ymunwch â’n blog byw o Dai Hirion, Padog, drwy gydol y dydd.
Pnawn da o Rali CFfI Eryri!
Lluniau, fideos, canlyniadau a’r straeon diweddara – daw aelodau Clybiau Eryri a’r cyfan yn fyw i chi heddiw ar flog byw cynta Bro360.
Felly ymunwch â’n blog byw o Dai Hirion, Padog, drwy gydol y dydd.
? CANLYNIAD! ?
Cystadleuaeth: Crefft (dan 21 oed) – creu pyped unrhyw gyfrwng, addas i blant
1af: Nel Grug, CFfI Ysbyty Ifan
2il: Anest Jones, CFfI Caernarfon
3ydd: Nia Williams, CFfI Rowen
4ydd: Ffion Williams, CFfI Rowen
Beirniad: Elen Ebrill Jones
? #crysclwb rhif 2
Dyma Moli Jackson, cadeirydd CFfI Dyffryn Ogwen, yn ei chrys.
Pob lwc yn y cystadlu!
? CANLYNIAD! ?
Cystadleuaeth: Arlunio darlun
1af: Gwen Thomas, CFfI Ysbyty Ifan
2il: Gwen Thomas, CFfI Ysbyty Ifan
3ydd: Modlen Alun, CffI Ysbyty Ifan
4ydd: Elliw Jones Evans, CFfI Godre’r Eifl
Mae cynllun Golwg i greu gwefannau newyddion lleol – Bro360 – wrthi'n arbrofi heddiw, gyda blog byw o Rali @CFfIEryriYfc
Ewch i https://t.co/W8qxQrHJ8n i weld y canlyniadau, lluniau a fideos diweddara gan yr aelodau!#Bro360 #RaliSbyty19 https://t.co/bb7SU8MWvA
— golwg360 (@Golwg360) May 25, 2019
? Cneifio! ?
Y merched a’r bechgyn yn dechrau diwrnod prysur o gneifio! tyrd draw i sied 2 yn y Rali i gael golwg
? #crysclwb rhif 1
Dyma Elis yn modelu crys CFfI Caernarfon yn y Rali. Pa glybiau eraill sy yn y sir?
Tynnwch lun o’ch crys chi a chofiwch ei rannu gyda’r hashnod #Bro360
? Ma hwyl i’w gael gyda’r hwiangerddi! ?
Dyma Glwb Ysbyty Ifan (y clwb cartre heddiw) yn barod i fynd yn y gystadleuaeth Adloniant i Blant.
Ond pa hwiangerdd sy gennyn nhw? ?
? CANLYNIAD! ?
Cystadleuaeth: Llyfr cofnodion
1af: Dyffryn Madog
2il: Dyffryn Nantlle
3ydd: Ysbyty Ifan
4ydd: Llanrwst
PRYSURDEB!
Degau o aelodau wrthi’n brysur yn gwneud gwaith coed ac yn coginio.
Yr her i’r seiri eleni yw creu ffynnon gofuned (wishing well), a chreu triawd o fwyd stryd yw tasg y cogyddion ifanc.
A thema’r rali? Hwiangerddi!
? CANLYNIAD ?
Cystadleuaeth: Her Gymunedol (gwaith cartref)
1af: Llangybi
2il: Ysbyty Ifan
3ydd: Dyffryn Madog
4ydd: Rowen