Rali Clybiau Ffermwyr Ifanc Eryri

Ymunwch â’n blog byw o Dai Hirion, Padog, drwy gydol y dydd.

Pnawn da o Rali CFfI Eryri!

Lluniau, fideos, canlyniadau a’r straeon diweddara – daw aelodau Clybiau Eryri a’r cyfan yn fyw i chi heddiw ar flog byw cynta Bro360.

Felly ymunwch â’n blog byw o Dai Hirion, Padog, drwy gydol y dydd.

15:00

? CANLYNIAD! ?

Cystadleuaeth: Arddangosfa Adloniant i Blant

1af: CFfI Ysbyty Ifan

2il: CFfI Llanrwst

3ydd: CFfI Dyffryn Nantlle

4ydd: CFfI Caernarfon

Beirniad: Elin ac Emyr Roberts

14:53

? Aelod ifanc iawn mewn #crysclwb…

Mae Ilan yn edrych ymlaen yn barod i ymaelodi â Chlwb Caernarfon!

14:37

Beca Glyn o CFfI Ysbyty Ifan – y clwb sy’n cynnal Rali Eryri eleni – sy’n esbonio’r rhyddhad bod pawb yn mwynhau yma ar ôl yr holl waith paratoi a chyd-dynnu.

 

14:33

? Rhawio? Be di rhawio?! ?

Osian Evans o Glwb Caernarfon sy’n esbonio…

14:22

? CANLYNIAD! ?

Cystadleuaeth: Tro ar hwiangerdd

1af: CFfI Ysbyty Ifan

2ail: CFfI Llanrwst

3ydd: CFfI Llangybi

4ydd: CFfI Dyffryn Nantlle

Beirniad: Sian Edwards

14:20

? CANLYNIAD! ?

Cystadleuaeth: Creu tŵr (Aelod Hŷn ac Arweinyddion)

1af: CFfI Ysbyty Ifan

2ail: CFfI Llangybi

3ydd: CFfI Caernarfon

4ydd (cydradd): CFfI Dyffryn Nantlle a CFfI Rowen

14:19

? CANLYNIAD! ?

Cystadleuaeth: Gwaith coed (dan 26 oed) – creu ffynnon gofuned

1af: CFfI Y Rhiw

2ail: CFfI Llangybi

3ydd: CFfI Ysbyty Ifan

4ydd: CFfI Llanrwst

Beirniad: Glyn Jones

13:58

Dod i adnabod yr aelodau…

Dyma Sioned a Guto o Glwb Caernarfon yn crynhoi’r cystadlu hyd yn hyn, ac yn dyfalu pwy fydd yn ennill y Rali!

Ond fyddwn ni ddim yn gwybod yn iawn pwy eiff â hi tan ddiwedd y dydd – felly arhoswch gyda ni ar flog byw Bro360!

13:54

#crysclwb rhif 3!

A dyma Guto o Glwb Dyffryn Nantlle. Sgen ti lun o grys dy glwb? Anfona hi ato ni ar #Bro360 ar unrhyw gyfrwng!

13:51

? CANLYNIAD! ?

Cystadleuaeth: Cneifio (Dan 26 oed)

1af: Dylan Jones, CFfI Ysbyty Ifan

2il: Caron Evans, CFfI Ysbyty Ifan

3ydd: Meredydd Pyrs, CFfI Ysbyty Ifan

4ydd:Huw Hughes, CFfI Llangybi

 

Cystadleuaeth: Cneifio (Dan 21 oed)

1af: Llyr Jones, CFfI Ysbyty Ifan

2il: Emlyn Jones, CFfI Llanrwst

3ydd: Jac Ellis, CFfI Ysbyty Ifan

4ydd:Tomos Wyn Jones, CFfI Dyffryn Nantlle

 

Pob hwyl i Llyr a Dylan Jones yn y Sioe Fawr!