Rali Clybiau Ffermwyr Ifanc Eryri

Ymunwch â’n blog byw o Dai Hirion, Padog, drwy gydol y dydd.

Pnawn da o Rali CFfI Eryri!

Lluniau, fideos, canlyniadau a’r straeon diweddara – daw aelodau Clybiau Eryri a’r cyfan yn fyw i chi heddiw ar flog byw cynta Bro360.

Felly ymunwch â’n blog byw o Dai Hirion, Padog, drwy gydol y dydd.

13:06

? #crysclwb rhif 2

Dyma Moli Jackson, cadeirydd CFfI Dyffryn Ogwen, yn ei chrys.

Pob lwc yn y cystadlu!

12:58

? CANLYNIAD! ?

Cystadleuaeth: Arlunio darlun

1af: Gwen Thomas, CFfI Ysbyty Ifan

2il: Gwen Thomas, CFfI Ysbyty Ifan

3ydd: Modlen Alun, CffI Ysbyty Ifan

4ydd: Elliw Jones Evans, CFfI Godre’r Eifl

12:37

12:31

? Cneifio! ?

Y merched a’r bechgyn yn dechrau diwrnod prysur o gneifio! tyrd draw i sied 2 yn y Rali i gael golwg

https://youtu.be/O6ItmfBdF7U

 

12:23

#crysclwb rhif 1

Dyma Elis yn modelu crys CFfI Caernarfon yn y Rali. Pa glybiau eraill sy yn y sir?

Tynnwch lun o’ch crys chi a chofiwch ei rannu gyda’r hashnod #Bro360

12:18

? Ma hwyl i’w gael gyda’r hwiangerddi! ?

Dyma Glwb Ysbyty Ifan (y clwb cartre heddiw) yn barod i fynd yn y gystadleuaeth Adloniant i Blant.

Ond pa hwiangerdd sy gennyn nhw? ?

12:04

? CANLYNIAD! ?

Cystadleuaeth: Llyfr cofnodion

1af: Dyffryn Madog

2il: Dyffryn Nantlle

3ydd: Ysbyty Ifan

4ydd: Llanrwst

11:46

PRYSURDEB!

Degau o aelodau wrthi’n brysur yn gwneud gwaith coed ac yn coginio.

Yr her i’r seiri eleni yw creu ffynnon gofuned (wishing well), a chreu triawd o fwyd stryd yw tasg y cogyddion ifanc.

A thema’r rali? Hwiangerddi!

11:42

? CANLYNIAD ?

Cystadleuaeth: Her Gymunedol (gwaith cartref)

1af: Llangybi

2il: Ysbyty Ifan

3ydd: Dyffryn Madog

4ydd: Rowen

11:32

? CANLYNIAD CYNTA’R DYDD ?

Cystadleuaeth: Hysbyseb Rali

1af: Ysbyty Ifan

2il (cydradd): Llangybi a’r Rhiw

3ydd: Rowen

4ydd: Dyffryn Ogwen