Pnawn da o Rali CFfI Eryri!
Lluniau, fideos, canlyniadau a’r straeon diweddara – daw aelodau Clybiau Eryri a’r cyfan yn fyw i chi heddiw ar flog byw cynta Bro360.
Felly ymunwch â’n blog byw o Dai Hirion, Padog, drwy gydol y dydd.
Pnawn da o Rali CFfI Eryri!
Lluniau, fideos, canlyniadau a’r straeon diweddara – daw aelodau Clybiau Eryri a’r cyfan yn fyw i chi heddiw ar flog byw cynta Bro360.
Felly ymunwch â’n blog byw o Dai Hirion, Padog, drwy gydol y dydd.
? #crysclwb rhif 1
Dyma Elis yn modelu crys CFfI Caernarfon yn y Rali. Pa glybiau eraill sy yn y sir?
Tynnwch lun o’ch crys chi a chofiwch ei rannu gyda’r hashnod #Bro360
? Ma hwyl i’w gael gyda’r hwiangerddi! ?
Dyma Glwb Ysbyty Ifan (y clwb cartre heddiw) yn barod i fynd yn y gystadleuaeth Adloniant i Blant.
Ond pa hwiangerdd sy gennyn nhw? ?
? CANLYNIAD! ?
Cystadleuaeth: Llyfr cofnodion
1af: Dyffryn Madog
2il: Dyffryn Nantlle
3ydd: Ysbyty Ifan
4ydd: Llanrwst
PRYSURDEB!
Degau o aelodau wrthi’n brysur yn gwneud gwaith coed ac yn coginio.
Yr her i’r seiri eleni yw creu ffynnon gofuned (wishing well), a chreu triawd o fwyd stryd yw tasg y cogyddion ifanc.
A thema’r rali? Hwiangerddi!
? CANLYNIAD ?
Cystadleuaeth: Her Gymunedol (gwaith cartref)
1af: Llangybi
2il: Ysbyty Ifan
3ydd: Dyffryn Madog
4ydd: Rowen
? CANLYNIAD CYNTA’R DYDD ?
Cystadleuaeth: Hysbyseb Rali
1af: Ysbyty Ifan
2il (cydradd): Llangybi a’r Rhiw
3ydd: Rowen
4ydd: Dyffryn Ogwen
Mae’r 11 clwb yn Eryri eisoes wedi dechrau ar y cystadlu yma’n y Rali – fe ddewn ni â chanlyniadau cystadlaethau’r bore i chi yn fuan.
Mae arwydd Rali’r Clwb i fyny yn junction Ffrwd Cae Du…..cadwch lygad allan amdano ? #Ralisbyty19 pic.twitter.com/B6AZoAk6BX
— CFFI Dyffryn Nantlle (@CFFI_DNantlle) May 6, 2019