Pobol ifanc prysur, a blogiau byw arbrofol

Mae prysurdeb pobol ifanc cefen gwlad yn werth ei ddathlu a’i rannu, felly buon ni’n creu blogiau byw o rai o weithgareddau’r haf…

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Gohebwyr Bro ifanc o Arfon a Cheredigion yn Eisteddfod yr Urdd, Bae Caerdydd

Mae llwyth o bethau’n bosib ar blatfform digidol lleol…

*fideo  *oriel luniau  *blog  *pleidlais ddigidol  *vlog  *podlediad  *map  *cwis  *calendr  *bwletin  *erthygl  *GIF  *rhwydo o gyfryngau cymdeithasol (a mwy)…

Yn ogystal â mynd o gwmpas digwyddiadau lleol Ceredigion ac Arfon gyda stondin syniadau Bro360 dros yr haf, buon ni’n arbrofi gydag un o’r cyfryngau hyn, gan greu BLOGIAU BYW i rannu hynt a helynt ein pobol ifanc.

Diolch i’r Gohebwyr Bro (o bob oed!) fu’n creu cynnwys o Rali CFfI Eryri, Rali CFfI Ceredigion a Steddfod yr Urdd. Cymerwch gip ar y blogs i gael yr holl hanes.

Gohebwyr bro brwdfrydig cyn mynd o gwmpas maes y Steddfod i chwilio straeon o ardal Arfon!
Gohebwyr bro brwd yn y Steddfod yn creu eu cofnod cynta i’r blog byw
Crysau rhai o aelodau CFfI Eryri
Y dorf yn Rali CFfI Eryri
Aelodau a chefnogwyr CFfI Lledrod ar ôl diwrnod prysur yn Rali Ceredigion.