Poblogrwydd blogiau’r etholiad yn profi’r galw am newyddion lleol

Ymateb arbennig i flogiau byw gan bobol ifanc Arfon a Cheredigion

Lowri Jones
gan Lowri Jones
Iolo ap Gwynn

Caleb yn y cownt yng Ngheredigon, yn cyfweld â Ben Lake

Mae’r ymateb i ddau flog byw a gynhaliwyd ar ddwy o wefannau Bro360 nos Iau yn dangos yr angen am blatfform sy’n rhoi sylw i newyddion a gwleidyddiaeth lleol.

Buodd Bro360 yn gweithio gyda dau grŵp o bobol ifanc – yn Arfon a Cheredigion – i’w helpu i gwestiynu’r ffordd mae’r cyfryngau canolog yn ymdrin â gwleidyddiaeth, ac i roi platfform iddyn rannu’r straeon oedd yn bwysig iddyn nhw yn lleol yn ystod yr wythnosau cyn yr Etholiad Cyffredinol.

Cyffro’r blogiau byw

Uchafbwynt y prosiect gwleidyddiaeth yma oedd rhoi’r cyfle i Caleb Rees (Ceredigion), Brengain Glyn a Tomos Mather (Arfon) greu a chynnal eu blog byw eu hunain o’r cownt yn ystod noson yr etholiad.

Brengain a Tomos
Caleb yn cyfweld â Mark Williams

Helpodd Brengain a Tomos i gynnal diddordeb trigolion Arfon, oedd yn disgwyl yn eiddgar am si o’r canlyniad, ar y blog byw ar DyffrynNantlle360.cymru.

Roedd Caleb gyda’r cynta i gyfweld ag Aelod Seneddol Ceredigion, Ben Lake, i gael ei ymateb i’w lwyddiant. Fe hefyd oedd y cynta i dorri’r newyddion na fyddai Mark Williams (fu’n Aelod Seneddol yn y sir am 12 mlynedd) yn sefyll etholiad arall.

Poblogrwydd

Gyda channoedd o bobol leol yn defnyddio’r blogiau i gael gw’bod y diweddara, roedd yn gyfle da i hyrwyddo gwefannau straeon lleol newydd BroAber360 (gwefan gogledd Ceredigion) a DyffrynNantlle360 a’r hyn sy’n bosib i bobol ei wneud ar y platfformau newydd.

Roedd y blogiau wedi profi’n boblogaidd iawn gyda phobol oedd yn dilyn y cyffro o’u cartre:

Cael gwared â’r celwydd

Buodd Brengain a Tomos a’u ffrindiau hefyd yn brysur yn holi pobol ifanc yr ardal am be sy’n bwysig iddyn nhw wrth drafod yr etholiad, ac mae’r sgyrsiau gyda disgyblion a gafodd eu darlledu yn awgrymu bod iechyd meddwl a hanes Cymru ar dop y rhestr.

A buodd Huw Jones a Caleb yn astudio taflenni etholiadol y pleidiau ac yn creu delweddau bachog, i helpu pobol ifanc eraill eu hoedran nhw i gwestiynu popeth maen nhw’n ei ddarllen a’i glywed, er mwyn dod o hyd i be sy’n berthnasol a ble mae’r addewidion gwag.

Os hoffech chi edrych nôl ar y blogiau i weld be allai fod yn bosib i chi yn y dyfodol, dyma nhw: