Mae plant yn naturiol greadigol

Mae Guto wedi bod yn helpu disgyblion yn Nyffryn Nantlle i greu logos ac ambell stori am eu hysgol ar gyfer eu gwefan fro newydd.

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Mae disgyblion ar draws Dyffryn Nantlle wedi bod yn creu logos i’w bro, yn cymryd rhan mewn cwis am yr ardal ac yn creu ambell stori am eu hysgol ar gyfer eu gwefan fro newydd, sef dyffrynnantlle360.cymru

Diolch i’r disgyblion a’r staff yn Ysgol Brynaerau, Ysgol Bro Lleu, Ysgol Bro Llifon, Ysgol Talysarn, Ysgol Llandwrog, Ysgol Felinwnda ac Ysgol Rhostryfan am y croeso gafodd Guto Jones efo chi.

Ond y stori fawr yw bod na ysgol sy’n adeiladu ei chwrs golff ⛳️ ei hun! Ond tybed pa ysgol?!

? Dyma’r stori! ?

https://dyffryn-nantlle.360.cymru/20…/cwrs-golff-ysgol-lleu/

 

 

A dyma ambell un o’r syniadau am logos i’r wefan fro…

     

Sgen eich ysgol chi stori?
Cysylltwch â guto@bro360.cymru i gyfrannu.