Dyw pethau ddim fel buon nhw

Wrth feddwl nôl i’r cyfnod pan oedd ‘cymunedau Cymraeg’ yn eu hanterth, ni’n cofio cymaint mwy o’n ni’n arfer dod ynghyd i wneud pethau. 

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Wrth feddwl nôl i’r cyfnod pan oedd ‘cymunedau Cymraeg’ yn eu hanterth (pan o’n ni’n fach – fwy na thebyg), ni’n cofio cymaint mwy o’n ni’n arfer dod ynghyd i wneud pethau. 

Pan oedd pobol yn cwrdd mewn neuadd, cae neu festri (neu hyd yn oed yn eu tai ei gilydd os nad oedd ‘canolfan’ ar gael) i drefnu’r sioe amaethyddol, yr eisteddfod leol, y cyngherddau a’r ffeiriau. Heb sôn am y ‘dod ynghyd’ cyson i aelodau’r Clwb Ffermwyr Ifanc, y clwb pêl-droed neu rygbi, y côr, y gymdeithas ddiwylliannol, y capel… Dyna’r oes aur, a dyw pethau ddim fel buon nhw.

Fel wedodd rhywun call rywbryd – felna fydd hi, os na newidith hi. 

Ac mae’r byd wedi newid. Brexit. Polareiddio barn a rhannu cymdeithas. Ni a nhw. Cael ein perswadio bod angen byw bywyd er ein mwyn ni’n hunain, ac nid er mwyn ein gilydd. Twf unigolyddiaeth.

A gyda’r holl newid hwn, mae cymdogaethau ‘y fro Gymraeg’ wedi newid hefyd.

Y cwestiwn cynta i’w ofyn, felly, yw ‘beth sydd ei angen fan hyn?’ A gan bobol ar lawr gwlad y mae’r ateb. 

Ers 4 mis dwi wedi helpu i hwyluso dros ddwsin o ‘sesiynau crynhoi syniadau’ yng ngogledd Ceredigion ac Arfon, a threulio tipyn o amser yn clywed beth sy’n bwysig i bobol yn y cymdogaethau cefen gwlad hyn. 

Er yr amrywiaeth o sylwadau, yr un peth ddaeth i’r brig ym mhob man: yr angen i ‘helpu pobol i ddod at ei gilydd’. 

Meddyliwch am yr holl weithgareddau fuodd mlaen yn eich ardal leol dros yr haf – o ddigwyddiadau sydd wedi’u cynnal ers blynyddoedd i wyliau newydd. O’r bach a niferus i’r uchelgeisiol. Heb sôn am yr holl bethau sydd i ddod nawr bod y flwyddyn ddiwylliannol newydd wedi dechrau. 

Mae llwyth o bethau YN digwydd nawr, yn 2019, a threfnwyr diwyd yn dal i roi o’u hegni er mwyn tynnu pobol ynghyd. 

Ond digwydd ar wahân y mae llawer o’r trefnu, o bryd i’w gilydd bydd ddigwyddiadau lleol yn cystadlu’n anfwriadol yn erbyn ei gilydd, ac mae rhai’n dal heb glywed bod rhywbeth yn digwydd ar eu stepen drws. 

Mae angen adnodd sy’n galluogi mwy o bobol i ddarganfod a chefnogi gweithgarwch y fro, ac sy’n helpu trefnwyr i gydlynu.

Felly mae’r calendr digidol ar ei ffordd i wefannau straeon lleol Bro360! 

Bydd yn blatfform i weld holl brysurdeb cefen gwlad fesul wythnos a mis; yn lle i wahodd pobol i weithgareddau a hyrwyddo; a bydd yn rhwydd i bawb ei ddefnyddio a chyfrannu ato.

Achos er gwaetha popeth, mae pobol yn dal yn moyn dod at ei gilydd. Nawr, mae da ni ateb newydd fydd yn rhoi hwb i hynny, ac yn un cam tuag at gryfhau ein cymdeithas.

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)