Perffeithio sut i saethu fideo, cyhoeddi’r straeon cynta a chreu gyda’r CFfI

Blas o’r wythnos ddiwethaf yng nghwmni tîm Bro360.

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Llun gan CFfI Dyffryn Nantlle

Wythnos yng nghwmni Bro360 – Perffeithio sut i saethu a golygu fideos

Pan fyddwn ni’n siarad â phobl am bosibiliadau creu straeon aml-gyfrwng ar gyfer y gwefannau lleol, creu fideos yw’r syniad sy’n dal y dychymyg.

Dyw hyn ddim yn syndod – mae 5 biliwn o fideos yn cael eu gwylio ar YouTube bob dydd, ac mae pobol yn gwylio 100 miliwn awr o fideo ar Facebook. Fydden i’n fodlon betio dy fod ti wedi gwylio o leia un fideo ar gyfryngau cymdeithasol dros y 24 awr diwethaf.

Ar ben hyn, mae aps saethu a golygu fideos ar gael yn rhad ac am ddim ar bob ffôn clyfar, felly mae mwy a mwy ohonom yn barod i arbrofi a chreu ein cynnwys ein hunain.

Felly, yn ystod yr wythnos ddiwethaf buodd Dan – Ysgogydd Bro360 yng ngogledd Ceredigion – yn cynnal sesiwn hyfforddiant ar saethu a golygu fideos ar iMovie gyda gweddill y tîm.

Ambell air o gyngor gan Dan ?

  • Cyn dechrau, rhowch eich ffôn ar ‘Airplane’. S’dim byd gwaeth na chael galwad ffôn yn torri ar draws cyfweliad neu saethiad!
  • Wrth saethu, peidiwch â symud y ffôn os nag oes dim byd yn y llun yn symud.
  • Pwyswch y botwm i stopio recordiad ar ôl pob darn o gyfweliad, er mwyn ei gwneud hi’n haws golygu a throsglwyddo ffeiliau.

Mae tipyn o’r cynghorion yn bethau sy’n wir ar gyfer ffilmio ar iPhone, Android neu unrhyw declyn symudol, felly os hoffech wahodd aelod o’r tîm i helpu eich mudiad neu gymdeithas greu fideos bach diddorol – cofiwch gysylltu.

Criw Dyffryn Nantlle yn cyhoeddi eu straeon cynta

Maen nhw’n fyw!”

Ydy, mae 3 o wefannau bro newydd y prosiect newydd fynd yn ‘fyw’. Yn eu ffurf elfennol y mae dyffrynnantlle360.cymru, ogwen360.cymru a broaber360.cymru yn bodoli ar hyn o bryd, wrth i’r criwiau lleol sydd wedi creu’r gwefannau arbrofi gyda’r feddalwedd a dechrau ei defnyddio i greu.

Roedd hi’n sbeshal gweld pawb oedd yn y ‘sesiwn creu straeon’ ym Mhenygroes nos Fercher yn mynd adre wedi cofrestru’n frodor (sef creu cyfri fel defnyddiwr er mwyn cyhoeddi) ac wedi cyhoeddi eu stori gynta.

Dyma ddetholiad bach o’r straeon difyr sy wedi ymddangos gan y criw:

https://dyffryn-nantlle.360.cymru/2019/murlun-datgelu-darn-hanes/

https://dyffryn-nantlle.360.cymru/2019/lleidr/

https://dyffryn-nantlle.360.cymru/2019/clwb-darllen-newydd/

Cofiwch bwyso’r botwm bach ar waelod y stori os hoffech chi ‘ddiolch’ amdani. Mae’n well na ‘like’, ond yw e?!

Mae’r criw lleol ynedrych ymlaen at gyhoeddi mwy o straeon a fideos dros y diwrnodau nesa, acfel dywedoddd Daniel ar y noson, “next level Lleu di hwn!

Mudiadau’n mentro

Mae Ysgogwyr lleol y prosiect – Dan a Guto – wedi bod yn brysur yn cwrdd â chynrychiolwyr gwahanol fudiadau yn eu bröydd yn trafod potensial y prosiect yma i wneud gwahaniaeth go iawn iddyn nhw.

Nos Lun aeth Guto i gynnal sesiwn gyda Chlwb Ffermwyr Ifanc Dyffryn Nantlle, lle bu’n helpu’r aelodau i greu fideos o broffil y clwb a’i aelodau, a oedd yn rhoi cyfle i swyddogion ac aelodau profiadol rannu tips gyda’r to iau – fideo fydd yn ddefnyddiol, gobeithio, i helpu clybiau i drosglwyddo sgiliau a hyder i’r to nesa.

Cadwch lygad allan am yfideo terfynol dros y diwrnod neu ddau nesa!