‘Roedd Tachwedd yn fis prysur iawn i mi yn Nyffryn Ogwen, wrth i mi fynd ar daith o amgylch mudiadau’r ardal er mwyn dangos eu gwefan newydd iddynt – Ogwen360.
Er nad wyf yn byw yn bell o Ddyffryn Ogwen (hogyn o Ddyffryn Nantlle ‘dwi), doeddwn i ddim yn gyfarwydd iawn â’r ardal, felly ‘roedd y daith yma’n gyfle cyffrous i mi ddod i ‘nabod yr ardal a’r bobol yn well.
Cychwynais fy nhaith wrth ymweld ag Alwyn Lloyd Ellis, cadeirydd Sioe Dyffryn Ogwen, er mwyn ei holi am yr holl waith caled sydd yn mynd ‘mlaen wrth gynnal sioe leol.
Yn fy marn i, dyma yw un o brif fanteision gwefan fel ogwen360 – rhoi sylw i fudiadau lleol, sydd yn haeddu pob canmoliaeth a chefnogaeth. Yn aml, mae’r cyfryngau cenedlaethol yn methu rhoi sylw i fudiadau a digwyddiadau o’r fath, er eu bod yn ei haeddu am yr holl waith caled.
Dyma un o’r llefydd all Bro360 ‘neud gwahaniaeth! Cymerwch olwg ar beth sy’n mynd ‘mlaen y tu ôl i’r llenni yn Sioe Dyffryn Ogwen yma – https://ogwen.360.cymru/2019/cynnal-sioe-dyffryn-ogwen-cwestiwn-ateb-gydar/
Bu sawl mudiad lleol arall yn ran o’r daith hefyd, gan gynnwys y Clwb Ffermwyr Ifanc lleol, Cymdeithas Hanes Dyffryn Ogwen, a’r Clwb Camera. Wrth ymweld â’r mudiadau yma, cefais flas ar hanes y Dyffryn, yn ogystal â gweld sawl llun hardd o’r ardal.
Mae aelodau o’r mudiadau yma bellach wedi ymuno ag Ogwen360 er mwyn creu cynnwys ar y wefan, ac mae croeso i chi wneud hefyd! Yr oll sydd angen ei wneud yw dilyn y ddolen yma i greu cyfrif – https://ogwen.360.cymru/fi/ymuno/
Cefais fy niddanu hefyd wrth ymweld â Chôr y Penrhyn, ac Eisteddfod Dyffryn Ogwen. Crëwyd cynnwys amrywiol gan y mudiadau yma, wrth i’r côr ychwanegu fideo sy’n hysbysebu cyngerdd yn Venue Cymru, a buon ni’n helpu’r Eisteddfod leol i greu dau drac sain – un o uchafbwyntiau’r cystadlu a’r llall o gystadleuaeth boblogaidd y corau ar ei hyd.
Dyma ddangos ychydig o’r amrywiaeth o gynnwys y mae’n bosib i chi ei greu ar Ogwen360. Mae hefyd yn rhoi’r cyfle i bobol wrando nôl ar y cystadlu gwych fu yn Neuadd Ogwen ar nos Wener y ‘Steddfod. Gallwch wrando yma – https://ogwen.360.cymru/2019/eisteddfod-gadeiriol-dyffryn-ogwen-2019/
Ond er bod ‘taith Dyffryn Ogwen’ ar ben yn swyddogol, dyw’r cyfle i ni ymweld â’ch mudiad, clwb neu ysgol chi ddim! Os ydych am i Bro360 ymweld â chi yn y flwyddyn newydd, neu am fwy o wybodaeth ar sut i greu cynnwys ar gyfer eich gwefan newydd, cysylltwch â mi ar gutojones@golwg.com.
Byddwn hefyd yn cynnal sesiwn yn Neuadd Ogwen am 7:30pm ar yr 8fed o Ionawr, a fydd yn gyfle i weld sut gall eich gwefan fro wneud gwahaniaeth i’r pethau sy’n bwysig i chi’n lleol. Croeso i bawb!