Gobeithio bod Bro360 wedi gallu cyfrannu at ‘ddod â lles i fywyd llan’ ddydd Sadwrn (27 Gorffennaf) gyda’r gweithgareddau ar ein stondin, ar y cyd â gwefan fro clonc360 yng Ngŵyl Fwyd Llanbed.
? mae fideo arbennig Gohebwyr Bro ifanc clonc360 o’r ŵyl ar y wefan fro…
? buodd tîm o bobol y papur bro yn cydweithio â Bro360 ac yn cael lot o sbort ar y stondin…
? cafodd dywediadau lleol eu dylunio a’u printio’n fyw ar bosteri a chrysau T a grëwyd yn arbennig i clonc360. Byddan nhw i’w gweld ar welydd ac o gwmpas y lle am flynyddoedd i ddod…
??????? mewnfudwr ifanc sy’n dechrau dysgu Cymraeg ac oedd yn ysu am gyfle i wneud rhywbeth er mwyn y gymdogaeth leol oedd y tu ôl i’r gweithgaredd printio. Mae e’n cymhathu!
Felly sdim angen bod yn ddigalon am ein cymunedau yng nghefn gwlad. ?
Roedd hi’n bleser gweld cymaint o bobol yn cyd-dynnu ac yn cefnogi yn Llanbed ddydd Sadwrn – cofiwch, ‘fe ddaw eto haul ar fryn; os na ddaw hade fe ddaw whyn‘ – man a man i ni feddwl yn gadarnhaol, fel Eirwyn Ponshân, glei!