Gwneud y pethau bychain…

Tasai pob un ohonom yn gwneud ambell i beth bach yn lleol, dychmyga’r gwahaniaeth mawr y gallwn ni ei wneud gyda’n gilydd!

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Dewch ar y daith gyda Bro360 – i wneud y pethau bychain…

“Gwnewch y pethau bychain” – dyna oedd neges Dewi Sant i bobol Cymru. Tasai pob un ohonom yn gwneud ambell i beth bach yn lleol, dychmyga’r gwahaniaeth mawr y gallwn ni ei wneud gyda’n gilydd!

Pethau bychain sydd wedi bod ar feddwl tîm Bro360 yn ystod y mis dwetha’ hefyd. Ar ôl Ionawr prysur yn lansio’r cynllun yn Arfon a gogledd Ceredigion (y ddwy ardal y byddwn yn gweithio ynddynt dros y 3 blynedd nesa’), ry’n ni wedi bod yn cymryd camau bach i baratoi ar gyfer helpu ein cymunedau i greu eu gwefannau newyddion lleol eu hunain.

O rannu syniadau yn #ffairtregaron a #haciaith, i gydweithio â clonc360 (gwefan fro Llanbed a’r cylch sydd wedi’i sefydlu ers rhai blynyddoedd), i ddechrau darganfod potensial cyfryngau cymdeithasaol a’r we fel ffordd o wneud gwahaniaeth yn lleol – mae Dan, Guto a Lowri wedi bod yn brysur!

Ond beth am y pethau bychain y gallwn ni i gyd eu gwneud?

? Wyt ti’n trydar ac yn defnyddio Facebook yn Gymraeg? Beth am Snapchat, neu Instagram – wyt ti’n dweud dy stori yn dy famiaith?

? Beth am gynnig sgwennu (neu ffilmio) adroddiadau Cymraeg ar gyfer dy dîm chwaraeon lleol, i’w rhannu ar gyfryngau cymdeithasol?

? Neu beth am wneud rhywbeth mor syml â dweud ‘shwmai’ / ‘sumae’ wrth basio dieithrin, yn lle ‘hello’?

Llawer o bethau bach sy’n gwneud gwahaniaeth mawr – ac mae pawb yn gallu cymryd rhan.