A fydd gwefan straeon lleol yng Nghaernarfon?

Mae gan Bro360 gynnig i bobol dre’ – gallwn gydweithio i greu gwefan straeon lleol newydd sbon.

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Mae gan Bro360 gynnig i bobol dre’.

Os ydach chi eisio, mi allwn weithio efo chi i greu gwasanaeth newydd sbon, a fyddai’n rhoi lle ar y we i chi – pobol dre’ – gael rhannu straeon, lluniau, clecs a mwy!

HOLIADUR I BOBOL DRE’

Darllenwch y wybodaeth yma cyn llenwi’r holiadur:

Pwy?
Chi, pobol dre’, fydd yn siapio’r wefan. Chi fydd yn dweud wrthym beth sydd yn bwysig i’w roi ar eich gwasanaeth lleol chi – y pethau rydych am eu brolio a’u hyrwyddo, a’r pethau rydych am eu newid yn eich bro.

Be?
Mae hi’n amlwg bod yna ddigon o fwrlwm yn dre’, ac mae digon yn digwydd yma. Felly mae hwn yn gyfle i gael un lle ar y we i grynhoi’r holl weithgarwch.

Sut?
Byddwn yn galluogi pawb i gyfrannu drwy unrhyw gyfrwng digidol – lluniau, fideos, gifs, blogs… Bydd yn gyfle gwych i chi rannu’r pethau sy’n bwysig i chi yn lleol, ac i roi llais i’r mudiadau a’r bobol na fydd yn cael sylw gan y cyfryngau cenedlaethol. ​Gallwn ni greu’r platfform er mwyn i chi greu’r straeon.

Ble arall?
Mae pobol Dyffryn Nantlle, Dyffryn Ogwen a gogledd Ceredigion wedi cydio yn y cyfle yn barod, ac mae eu gwefannau lleol nhw’n fyw!  (DyffrynNantlle360.cymru, ogwen360.cymru a BroAber360.cymru)

Cymrwch 2 funud i lenwi’r holiadur i siapio’r camau nesa!