Wrth i chi ymlacio / bwrw’ch blinder / magu’ch hangover heddi, mae’n gyfle i edrych yn ôl ar y diwrnod mowr.
Clwb Mydroilyn wedi cael diwrnod da – a dod yn yfed ar ddiwedd y cystadlu.
Da iawn i bawb am gymryd rhan yn Rali C.Ff.I Ceredigion ddoe ☺️1af yn y Arwydd 1af i’r Tro ar Hwiangerdd 1af i…
Posted by C.Ff.I Mydroilyn on Sunday, 2 June 2019
Cyfle i wylio un o uchafbwyntiau’r dydd – Clwb Mydroilyn yn ennill y ‘tro ar hwiangerdd’ gyda pherfformiad oedd yn codi tipyn o gwestiynau am gefen gwlad heddi.
Llongyfarchiadau!
Dyma'r 'Tro ar Hwiangerdd' buddugol fydd yn mynd mlan i gynrychioli Ceredigion yn y Sioe Fawr! Da iawn bois, o'ch chi'n wych! ???
Posted by C.Ff.I Mydroilyn on Sunday, 2 June 2019
Ma’ tîm Bro360 yn ddiolchgar iawn am y croeso gafon ni â’n stondin yn y Rali ddoe – nethon ni joio mas draw yng nghanol clybiau Ceredigion.
A nid ni oedd yr unig rai’n joio ar y stondin, glei!
Un o ohebwyr bro y rali – Jano Evans – â fideo yn edrych nôl dros gystadleuaeth y canu.
Llongyfarchiadau i @cffillanwenog am ennill Rali @CeredigionYFC heddiw.
— Clonc 360 (@Clonc360) June 1, 2019
Llongyfarchiadau mawr @cffillanwenog a diolch i @cffilledrod a @CeredigionYFC am rali gofiadwy. https://t.co/4thn62ZP0X
— Elin Jones (@ElinCeredigion) June 1, 2019
Diolch @CeredigionYFC am noson gofiadwy
— DAFYDD DAVIES (@DAFYDDPANTROD) June 2, 2019
@BBCRadioCymru hoffwn ddumuno Llongyfarchiade mawr i @cffillanwenog am ennil y rally @CeredigionYFC ymlaen nawr am 2020. Diolch I ti @djmarcgriffiths
— Alwyn Jenkins (@AlwynJenkins) June 2, 2019
Rali CFfI Ceredigion – un o uchafbwyntiau pob blwyddyn! Diolch yn fawr am y croeso eleni CFfI Lledrod, da iawn clwb ni CFfI Mydroilyn a phawb o'r clybiau eraill, a llongyfarchiadau i'r clwb buddugol CFfI Llanwenog. #ralicardi @Bro__360 pic.twitter.com/pmCw08x0ed
— Daf Tudur (@daf_tudur) June 2, 2019