Wrth i chi ymlacio / bwrw’ch blinder / magu’ch hangover heddi, mae’n gyfle i edrych yn ôl ar y diwrnod mowr.
Mari Glwys o CFfI Pontsian oedd un arall o’n gohebwyr bro brwd ddoe – yn rhannu ar Instagram gyda’r hashnod #ralicardi.
Dyma gasgliad o luniau a fideo ganddi o’r cystadlu. Lluniau da, Mari!
https://www.instagram.com/p/ByM1keNFNIKCAUj_a0R1JTx5_rTzi6F9CPMxGM0/
Rhai o uchafbwyntiau CFfI Troed-yr-awr ddoe. Gyda diolch arbennig i Dafydd James, Ysgrifennydd y Clwb, am fod yn ohebydd bro am y dydd!
Wel dyna ni rali 2019 wedi dod i ben. Diolch i’r holl aelodau am ei Gwaith yn ystod adeg rali leni, diolch i’r holl…
Posted by Ffrindiau C.Ff.I Troedyraur on Sunday, 2 June 2019
Un o sêr CFfI Pontsian yn Rali 2019 – llongyfarchiadau Beca!
Daeth Pontsian yn 10fed ar ddiwedd y cystadlu.
Llongyfarchiade mawr i Beca Jenkins! Beca wedi dod yn ôl a phedwar cwpan i Bontsian hedidw???-Unigolyn gorau barnu…
Posted by CFfI Pontsian on Saturday, 1 June 2019
Clwb Mydroilyn wedi cael diwrnod da – a dod yn yfed ar ddiwedd y cystadlu.
Da iawn i bawb am gymryd rhan yn Rali C.Ff.I Ceredigion ddoe ☺️1af yn y Arwydd 1af i’r Tro ar Hwiangerdd 1af i…
Posted by C.Ff.I Mydroilyn on Sunday, 2 June 2019
Cyfle i wylio un o uchafbwyntiau’r dydd – Clwb Mydroilyn yn ennill y ‘tro ar hwiangerdd’ gyda pherfformiad oedd yn codi tipyn o gwestiynau am gefen gwlad heddi.
Llongyfarchiadau!
Dyma'r 'Tro ar Hwiangerdd' buddugol fydd yn mynd mlan i gynrychioli Ceredigion yn y Sioe Fawr! Da iawn bois, o'ch chi'n wych! ???
Posted by C.Ff.I Mydroilyn on Sunday, 2 June 2019
Ma’ tîm Bro360 yn ddiolchgar iawn am y croeso gafon ni â’n stondin yn y Rali ddoe – nethon ni joio mas draw yng nghanol clybiau Ceredigion.
A nid ni oedd yr unig rai’n joio ar y stondin, glei!
Un o ohebwyr bro y rali – Jano Evans – â fideo yn edrych nôl dros gystadleuaeth y canu.
Llongyfarchiadau i @cffillanwenog am ennill Rali @CeredigionYFC heddiw.
— Clonc 360 (@Clonc360) June 1, 2019
Llongyfarchiadau mawr @cffillanwenog a diolch i @cffilledrod a @CeredigionYFC am rali gofiadwy. https://t.co/4thn62ZP0X
— Elin Jones (@ElinCeredigion) June 1, 2019