Datblygu pob gwefan, cam wrth gam

Blas o’r hyn ry’n ni wedi bod yn ei wneud gyda phobl Arfon a gogledd Ceredigion.

Lowri Jones
gan Lowri Jones

> Beth sy ei ANGEN ar ein bröydd?

> Sut gallwn ni ddathlu mwy o’r pethau da, a helpu i newid y pethau sydd angen eu newid?

> Pa arfau digidol newydd y gallwn ni eu creu er mwyn gwneud gwahaniaeth?

Nod Bro360 yw ei gwneud hi’n haws i bobol fel chi ddefnyddio’r byd digidol i wneud gwahaniaeth yn lleol.

Ac mae sesiynau creadigol y gwanwyn wedi annog pobol ardal Arfon a gogledd Ceredigion i gwestiynu be sy ei angen… a meddwl am y llwyth o bethau sy’n bosib.

Mae’r syniadau’n dod mas o’n clustiau ni i gyd!

Dyma flas o’r hyn ry’n ni wedi bod yn ei wneud dros y misoedd diwethaf gyda chymdogaethau yn Arfon a gogledd Ceredigion.

Cwestiynu cyn creu…

Beth y’n ni moyn i bobol wybod am ein bro?

Beth y’n ni eisiau ei ddathlu?

Be hoffen ni ei newid?

Dod i weld ? y potensial

Oes na stori fan hyn?

A sut gallwn ni ddefnyddio gwahanol dechnegau digidol i wneud gwahaniaeth i’r ŵyl newydd yma?

Annibendod!

Ond na – co ddechrau’r daith o drafod pa eitemau fyddai’n haeddu sylw ar eich gwefan fro, a pha gyfryngau sy’n bosib…

Creu Clwb Pêl-droed

Wel, ie a na!

Mae’n amlwg bod angen mwy na jyst amddiffynwyr i gynnal Clwb Pêl-droed lleol…

fel mae angen pobol â gwahanol sgiliau ym mhob cymdeithas, a gwefan fro.

Croeso i…

Beth y’ch chi ishe i bobol wybod am eich bro?

Mae potensial i roi platfform i’r pethau hyn (a llawer mwy) ar wefan fro.

Creu rhan gynta’r gwefannau bro – calendr!

Mae calendr digidol yn dod i frig y rhestr o beth sy ei angen yn lleol.

Ond shwt galendr fyddai’n ddefnyddiol i’w gael? Beth y’ch chi ishe iddo wneud?

gwefannau? gwasanaethau rhwydwaith?

Beth ddylsen ni eu galw nhw – y pethau yma sy’n cael eu creu gyda chymunedau ar hyn o bryd?

gwefannau? gwasanaethau? rhwydwaith? 

Un peth sy’n sicr – dim bod yn ‘Gyfrwng’ sy’n bwysig.
Bod yn gyfrwng i wneud gwahaniaeth i’r cymdogaethau yw nod Bro360.