Beth yw Bro360?
Prosiect gan gwmni Golwg, i helpu cymunedau greu eu gwefannau bro eu hunain. Mae wedi datblygu’n rhwydwaith o wefannau cymunedol sy’n gartref i straeon lleol, sy’n cael eu creu gan bobol leol. Mae’n fwy na newyddion, ac mae’n fwy na phapur bro ar-lein – mae’n ddigwyddiadau, blogiau byw, fideos, sgyrsiau – amrywiaeth o gynnwys i apelio a gwneud gwahaniaeth i’r gymdogaeth.
Yn wreiddiol bu’r cynllun peilot yn gweithio gyda chymdogaethau mewn dwy ardal yng Nghymru, sef Arfon a Cheredigion, a bellach mae cyfle i ardaloedd newydd ymuno.
Beth yw gwefannau newyddion lleol?
Llwyfan i’r straeon sy’n bwysig i bobol leol. Pobol y bröydd fydd yn penderfynu ar hunaniaeth eu gwefan, beth sydd angen rhoi sylw iddo yn lleol, a phobol y bröydd fydd yn creu’r cynnwys, gyda chymorth ac arweiniad tîm o staff Golwg.
I bwy mae’r gwefannau?
Mae’r gwefannau i bawb sydd am gyfrannu at eu bro – trwy ddarllen, gwylio a rhannu cynnwys, trwy greu straeon ac eitemau diddorol am eu bro, a thrwy lywio cyfeiriad y gwefannau i’r dyfodol. Byddan nhw’n wefannau Cymraeg ac yn lle i bobol ddefnyddio’r Gymraeg sydd ganddynt.
Sut y gall Bro360 fy helpu i?
Er mwyn rhoi’r gallu a’r hyder i bobol leol greu gwefan newyddion sy’n ateb anghenion y fro, bydd Ysgogwyr lleol Bro360 ar gael i gynnig sesiynau hyfforddiant ar bob math o elfennau, i gefnogi’r criwiau lleol i ddatblygu syniadau ac i gefnogi ar hyd y daith. Bydd Golwg hefyd yn trefnu ac yn datblygu’r holl elfennau technolegol.
Beth fydd ar y gwefannau bro?
Beth bynnag ry’ch chi am ei weld yno! Chi fydd yn creu y cynnwys sy’n bwysig i chi yn lleol. Fideos o uchafbwyntiau’r tîm chwaraeon lleol? Calendr digwyddiadau digidol? Straeon newyddion pwysig? Blogiau byw o ddigwyddiadau? Lluniau o weithgarwch cymdeithasau lleol? Beth hoffech chi ei weld?
Pwy fydd yn creu’r straeon?
Chi i gyd! Gyda phobl leol y mae’r wybodaeth orau am yr hyn sy’n digwydd yn lleol. A oes pwnc llosg yn y pentre yn ddiweddar? A oes llwyddiant lleol sy’n werth ei ddathlu? A oes newid byr-rybudd i drefniadau? Chi sy’n gwybod – a chi fydd yn torri’r stori.
A fydd straeon am fy nghlwb i ar y wefan?
Bydd – os ydych chi am iddo fod. Mae’n cyfrannu adroddiad, lluniau, poster a fideos am eich clwb neu gymdeithas ar y wefan yn hawdd iawn. Gallwch hyd yn oed addasu adroddiad neu bwt byr ry’ch chi wedi’i greu eisoes ar gyfer platfformau eraill.
Sut galla i gyfrannu?
Os ydych chi’n byw mewn ardal sydd â gwefan fro, ewch i’r wefan, Ymuno/Mewngofnodi i’ch cyfrif, ac yna pwyso’r botwm Creu. Bydd eich tîm o olygyddion lleol yn gwirio’r straeon cyn oddyn nhw fynd yn fyw.
Dilynwch eich gwefan fro ar gyfryngau cymdeithasol, a chofio ticio’r blwch ‘derbyn egylchlythyr’ wrth greu cyfrif, i gael y straeon a’r digwyddiadau diweddaraf i’ch mewnflwch.
Sut mae cysylltu â ni?
- Lowri Jones – Pennaeth Datblygu a Phrosiectau Golwg Cyf – lowrijones [at] golwg [dot] cymru
- @Bro__360 ar Twitter, bro360_ ar Instagram
Ai dim ond straeon Cymraeg fydd ar y wefan?
Ie. Un o amcanion y prosiect yw cryfhau newyddiaduraeth Gymraeg a chyfoethogi’r cynnwys Cymraeg sydd ar-lein. Ry’n ni am i bawb deimlo’n hyderus yn defnyddio’r Gymraeg sydd ganddynt, gan gynnwys tafodiaith leol, heb orfod poeni am ddefnyddio Cymraeg ffurfiol neu anghyfarwydd.
Pa ardaloedd fydd sydd â gwefan leol?
Mae gwefannau bro wedi’u creu gan gymunedau yn Arfon a Cheredigion, sef Caernarfon360, BroWyddfa360, BangorFelin360, Ogwen360, DyffrynNantlle360 yn y gogledd, ac Aeron360, BroAber360, Caron360, Clonc360, Cwilt360, Carthen360 a BroCardi360 yng Ngheredigion.
Yn ystod y blynyddoedd nesaf, rydym yn gobeithio bydd y rhwydwaith yn gallu ymestyn i gynnwys ardaloedd newydd sydd â diddordeb. Cysylltwch os hoffech roi gwybod bod diddordeb gan eich bro chi.
Beth fydd y cysylltiad â’r papur bro?
Nid ‘prosiect papurau bro’ yw hwn, ond byddwn yn cydweithio’n agos â’r papurau bro lleol er mwyn creu chwaer-wasanaethau fydd yn cefnogi ac yn ategu ei gilydd. Mae modd gwneud straeon mewn ffyrdd gwahanol i fanteisio ar y ddau gyfrwng. Ni fydd y prosiect yn cymryd lle’r papurau bro.
Ai straeon testun yn unig fydd i gael?
Nage wir! Bydd modd creu a rhannu pob math o gynnwys ar y gwefannau, gan gynnwys lluniau, fideo a blogiau byw. Byddan nhw’n wefannau aml-gyfrwng a bywiog sy’n defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf.
A fydd cynnal gwefan fro yn lot o waith?
Gyda thîm o bobol leol brwd, ni fydd cynnal y wefan fro yn lot o waith nac yn faich ar neb. Y criwiau lleol fydd yn cyfrannu syniadau ar y dechrau ac yn cynnal y gwefannau yn y pen draw, ond mae tîm Bro360 wrth law i ysgogi, galluogi a chefnogi pobol leol i gymryd rhan.
Dwi’n adnabod rhywun allai fod ’da diddordeb. Sut gallan nhw gael gwybodaeth?
Gallwch ein dilyn ein cyfryngau cymdeithasol er mwyn cael mwy o wybodaeth, a chofrestru i dderbyn ein egylchlythyr.
- Facebook: BroTriChwechDim
- Twitter: @Bro__360
- Instagram: bro360_
Sut mae’r prosiect yn cael ei ariannu?
Cafodd y prosiect peilot ei ariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig tan 2022, a gafodd ei weinyddu gan Lywodraeth Cymru trwy WEFO. Mae prosiect 2022-23 yn cael ei ariannu gan gronfa Pawb a’i Le, y Loteri Genedlaethol.
Dwi’m yn gallu sgwennu Cymraeg swish. Fydd hyn yn broblem?
Na fydd! Bydd y gwefannau bro yn blatfform i bawb ddefnyddio’r Gymraeg y maen nhw’n gyffyrddus yn ei defnyddio, yn enwedig iaith eu bro. Defnyddiwch eich tafodiaith â balchder!
Mae newyddion lleol yn cael ei rannu’n barod ar Facebook, Instagram ac ati, sy’n gyfryngau poblogaidd. Pam bod angen cyfrwng arall?
Er bod hynny’n hollol wir, nid yw pawb yn aelod o’r cyfryngau hynny felly nid yw’r wybodaeth yn cyrraedd pawb yn y fro. Mae’n bosib nad ydych chi’n gweld y rhan helaeth o newyddion fyddai o ddiddordeb i chi ar Facebook, er enghraifft, gan mai’r cwmni hwnnw sy’n penderfynu beth mae pawb yn ei weld trwy algorithms. Bydd gwefannau lleol Bro360 yn blatfform agored a hygyrch i bawb gyfrannu ato a’i fwynhau.
A fydd cysylltiad rhwng gwefannau’r gwahanol ardaloedd?
Un elfen gyson ym mhob gwefan fydd ei gysylltiad â gwasanaeth newyddion cenedlaethol annibynnol golwg360 – bydd straeon lleol perthnasol ar y gwasanaeth hwnnw’n ymddangos ar y gwefannau bro.
Oes rhaid defnyddio technoleg?
Prosiect digidol yw hwn – bydd gwefannau a chyfryngau cymdeithasol yn rhan annatod o’r cyfan. Os nad ydych yn gyfforddus yn defnyddio mathau penodol o dechnoleg, bydd hyfforddiant ar gael am ddim i’ch helpu.
Pa fath o hyfforddiant fydd ar gael?
Gall tîm Bro360 gynnig hyfforddiant ar bob math o elfennau digidol, o ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol fel Instagram, Facebook a Twitter yn effeithiol, i gyfrannu eitem i’r gwefannau, i olygu fideos, sgwennu blogs a chynhyrchu podlediadau. A mwy!
Ydy’r hyfforddiant am ddim?
Ydy. Cysylltwch i ddweud pa hyfforddiant sydd ei angen arnoch.
Sut mae atal pobol rhag rhoi pethau anaddas neu anweddus ar y gwefannau?
Mae’r rhan fwyaf o’r gwefannau’n defnyddio systemau a haenau golygyddol i atal unrhyw ddeunydd anaddas rhag ymddangos ar y gwefannau bro, a gall tîm drafod yr anghenion hyn gyda’r grwpiau lleol.
Faint o waith fydd ‘golygu’ y gwefannau?
Mae hynny’n rhywbeth i’r bobol sy’n llywio pob gwefan ei benderfynu – gallai’r patrwm amrywio’n fawr o un wefan i’r llall, a does dim rhaid cael elfen olygyddol o gwbl. Os byddwch yn penderfynu bod angen hael olygyddol gallwn drafod yr opsiynau sydd ar gael a gallwch chi benderfynu beth sy’n eich siwtio chi, heb greu gormod o faich ar neb.
Pa effaith y gallai’r prosiect yma ei chael?
- cryfhau cymdogaethau, a’u galluogi i weithredu drostyn nhw eu hunain
- cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg ar y we, a rhoi hwb i hyder pobol i ddefnyddio’r Gymraeg sydd ganddynt
- gwella sgiliau digidol pobol
- cryfhau’r ymdeimlad o berthyn i’r fro leol.