Croeso i’r calendr digidol!

Cyhoeddi lle ar bob gwefan fro i chi hyrwyddo eich digwyddiadau lleol ar unwaith.

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Mae digwyddiadau gwahanol yn cael eu cynnal o hyd, ym mhob man.

‘Dyw pawb ddim yn gwybod amdanyn nhw. Mae ambell un yn colli noson â hanner am eu bod nhw’n meddwl bod ’dim byd mlân’.

Be sy’ ei angen fan hyn?

Calendr digidol!

Ac mae calendr digidol y gwefannau bro wedi cyrraedd! Lle hwylus i chi hyrwyddo digwyddiadau lleol a fydd, gobeithio, yn helpu i ddod â phobol at ei gilydd yn ein cymdogaethau.

Dyma sut mae defnyddio’r calendr a hyrwyddo eich digwyddiad lleol: