Criwiau lleol yn codi ac ateb cwestiynau

Ar ôl rhai misoedd, beth mae’r criwiau lleol sydd wedi bod cwrdd i drafod potensial Bro360 wedi’i ddarganfod?

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Pan ‘lansiodd’ Bro360 y cynllun i greu gwefannau bro lleol ym mis Ionawr, ro’dd na sawl cwestiwn heb eu hateb…

> a oes angen platfform digidol lleol?

> a oes digon o bobol, mudiadau a grwpiau i greu cynnwys Cymraeg?

> sut all gwefan aml-gyfrwng wneud gwahaniaeth i’n cymdeithas ni?

Beth y’n ni wedi’i ddysgu?

>> Erbyn hyn (canol Mehefin 2019), ar ôl cynnal cyfres o weithdai creadigol yn y bröydd, mae’n amlwg bod na frwdfrydedd i gydweithio i greu platfform bywiog, llawn straeon diddorol.

>> Mae’n amlwg bod lot o gynnwys Cymraeg lleol yn cael ei greu gan bobol yn barod ar wahanol gyfryngau, ond nad yw pawb yn gweld y rhan fwyaf ohono.

>> Ac mae’n amlwg bod potensial mawr i ddefnyddio platfform digidol ‘ar y funud’ i wneud gwahaniaeth i’n cymunedau.