BroAber360 sy’n mynd â hi!

Ar ôl cael rhestr fer a phleidlais, enw gwefan fro newydd sbon gogledd Ceredigon fydd BroAber360.cymru.

Lowri Jones
gan Lowri Jones

CYHOEDDIAD

Enw gwefan fro newydd sbon gogledd Ceredigion fydd BroAber360.cymru.

Ar ôl cynnal pleidlais yn ystod mis Awst gyda thrigolion o bob cwr o’r fro, drwy gyfryngau digidol, wrth gnocio drysau ac mewn sioeau lleol, penderfynodd criw llywio’r gwasanaeth fynd gyda’r enw poblogaidd BroAber360.

Dyma’r 6 enw oedd ar y rhestr fer:

– broaber360
– cantre360
– cardi360
– ceredig360
– gwyddno360
– ton360

Dyma fideo’r bleidlais: https://www.youtube.com/watch?v=Z8iuBok4luw 

Mae BroAber360 yn wefan i hanner uchaf y sir – o Gwm Wyre i Gwm Einon; o Aberystwyth i Ysbyty Ystwyth.

Bydd y criw lleol yn cwrdd ar nos Lun 7 Hydref yn Arad Goch, er mwyn dechrau creu’r straeon cyntaf ar gyfer y wefan fro.

Mae croeso i bawb i’r noson yma – bydd yn gyfle i glywed am y diweddara, siapio’r dyfodol a dechrau creu a rhannu’r straeon sy’n bwysig i chi ar BroAber360.