Beth sydd mewn enw?

Pleidleisiwch am enw i wefan fro gogledd Ceredigion!

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Mae cymunedau gogledd Ceredigion wrthi’n creu eu gwefan fro, ond mae un peth ar goll. Does gan y wefan ddim enw!

Wel – dim to…

Gan mai gwasanaeth gan bobl leol, i bobol leol fydd hwn, mae’r penderfyniadau pwysica yn eich dwylo chi – y bobol sy’n byw yn y fro.

Y bleidlais

Dyma’r 6 enw sydd wedi cyrraedd y rhestr fer:

broaber360
cantre360
cardi360
ceredig360
gwyddno360
ton360

Ewch i bro360.cymru/holiadur i fwrw eich pleidlais – heddi!

Beth nesa?

Dewch i glywed rhagor am sut gall y wefan fro fod o fudd i’ch cymuned chi yn sesiwn nesa Bro360 yng ngogledd Ceredigion.

Byddwn ni’n cwrdd nos Iau 5 Medi, 8pm yng Nghanolfan yr Hen Ysgol, Llanilar, ac mae croeso i bawb.

Dyma eich cyfle i roi eich bro ar y map!