Mae’r diolch yn fawr, a’r enillydd ydi…

Bethan Lloyd Dobson

gan Bethan Lloyd Dobson

Mae wythnos a mwy wedi mynd heibio erbyn hyn, ers i’r Wythnos Newyddion Annibynnol dynnu at ei therfyn. ‘Mae diffyg newyddion yn newyddion drwg’ oedd neges yr ymgyrch – cyfle i amlygu pwysigrwydd pob math o blatfformau newyddion annibynnol a’r cyfraniad y maent yn ei wneud i gymdeithas. Trwy fod yn lle i bobol leol rannu straeon am bopeth sy’n bwysig iddyn nhw, yn y Gymraeg, does dim platfform mwy ‘annibynnol’ na’r gwefannau bro.

Gyda darparwyr newyddion annibynnol yn wynebu her i gynhyrchu refeniw, penderfynodd Bro360 osod botwm ‘Cefnogi’ ar bob un o’r gwefannau i apelio am gyfraniadau at gynnal a datblygu’r rhwydwaith, ac ar gynnal hyfforddiant i ddarpar newyddiadurwyr lleol. Fe ddaru nifer y ‘Cefnogwyr’ ddyblu erbyn diwedd yr wythnos, ond mae’r ymgyrch yn parhau i fod ‘AR AGOR’ a’r cais ar i fwy ystyried rhoi £2.00 i gefnogi’u gwefan leol yr un mor daer. Felly ewch amdani a phwyso ‘Cefnogi’.

Yn ystod yr wythnos daeth llu o straeon difyr i lenwi’r sgrin mewn gair a llun. DIOLCH I BAWB am gyfrannu – hir y parhao. Roedd gennym hefyd gystadleuaeth, sef cyfle i ennill ipad am y stori leol fwyaf poblogaidd yn ystod yr wythnos. Ifan Meredith oedd yn fuddugol, gyda’i stori am gwmni te llwyddiannus y ‘Tidy Tea Co’ o Gwmann, sydd i’w gweld ar Clonc360. Llongyfarchiadau Ifan, a diolch enfawr am dy gyfraniadau cyson.  

Dweud eich dweud