Dydd Sul ar ôl Rali CFfI Ceredigion – llongyfarchion ac atgofion

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Wrth i chi ymlacio / bwrw’ch blinder / magu’ch hangover heddi, mae’n gyfle i edrych yn ôl ar y diwrnod mowr.

13:37

Cyfle i wylio un o uchafbwyntiau’r dydd – Clwb Mydroilyn yn ennill y  ‘tro ar hwiangerdd’ gyda pherfformiad oedd yn codi tipyn o gwestiynau am gefen gwlad heddi.

Llongyfarchiadau!

Dyma'r 'Tro ar Hwiangerdd' buddugol fydd yn mynd mlan i gynrychioli Ceredigion yn y Sioe Fawr! Da iawn bois, o'ch chi'n wych! ???

Posted by C.Ff.I Mydroilyn on Sunday, 2 June 2019

13:34

Ma’ tîm Bro360 yn ddiolchgar iawn am y croeso gafon ni â’n stondin yn y Rali ddoe – nethon ni joio mas draw yng nghanol clybiau Ceredigion.

A nid ni oedd yr unig rai’n joio ar y stondin, glei!

13:31

Un o ohebwyr bro y rali – Jano Evans – â fideo yn edrych nôl dros gystadleuaeth y canu.

 

 

13:29

13:29

13:29

13:28

13:28