Bar symudol newydd Tafarn y Plu

Mae Menter y Plu, Llanystumdwy yn cynnig gwasanaeth newydd i roi hwb i ddigwyddiadau

Sion Jones
gan Sion Jones

Ydych chi’n chwilio am far ar gyfer eich digwyddiad? Gall Menter y Plu eich helpu! Gyda cymorth Grymuso Gwynedd, byddem yn cynnig gwasanaeth bar symudol yn fuan.

Chydig o gefndir
Yn ystod y cyfnod clo cafodd tu allan Tafarn y Plu ei drawsnewid gyda llwyfan newydd, ac ers hynny rydym wedi cynnal digwyddiadau amrywiol sydd wedi dod a’r gymuned at ei gilydd, yn denu cwsmeriad newydd i’r dafarn, ac yn incwm bwysig i’r busnes.

Er hynny, nid oedd y bar yn y Plu ddigon mawr i ymdopi pan oedd y digwyddiadau yn brysur. Unwaith oedd niferoedd yn pasio 100, roedd ciwio yn y bar mewn lle cyfyng. Oherwydd hyn roedd cyfyngiad o niferoedd o docynnau roeddem yn ei werthu.

Yr ateb
Gyda rhagor o gapasiti bar, mi fedrwn ni gynyddu’r capasiti digwyddiadau yn sylweddol, sydd yn golygu mwy o incwm o’r tocynnau, a hefyd sicrhau mwy o incwm drwy’r bar. Mae llai o giwio yn golygu mwy o wario!

Felly prynwyd trelar oedd yn addas ar gyfer bar symudol er mwyn datrys y broblem. Yn ogystal, rydym wedi cael ymholiadau dros y blynyddoedd yn gofyn os fedrwn gynnal bar mewn digwyddiadau tu allan i’r Plu, fel priodasau ac ati. Mi fuasai’r trelar yn gyfle i ni gynnig y gwasanaeth yma ar draws y gymuned.

Roedd angen dipyn o waith adnewyddu ar y trelar cyn ei ddefnyddio fel bar, oedd yn cynnwys gwaith saer, plymio, trydanol, dylunio ac ati. Felly dyma ni ati i wneud cais am gyllid i raglen Grymuso Gwynedd sy’n cael ei redeg gan Menter Môn gyda chydweithrediad Cymunedoli Cyf. Roeddem yn hynod o falch pan gymeradawyd ein cais!

Llwyddiant cynnar
Ar y 10fed o Awst roedd y Cneifio Cyflym yn Nhafarn y Plu a drefnwyd gan bwyllgor o bobl ifanc leol. Roedd yn gyfle euraidd i dreialu’r bar symudol, a gyda 400 yn troi fyny roedd yn llwyddiant ysgubol!

Mae gwaith dylunio i’w ddod iddo gael edrych fel newydd, a wedyn edrychwn ymlaen i ddarparu bar symudol am bris cystadleuol ar gyfer pob math o ddigwyddiadau, gyda gostyngiadau arbennig ar gyfer digwyddiadau cymunedol.

Dweud eich dweud