Stori fawr ar wefan fro yn troi’n realiti

Ar Caron360 y datgelwyd yn gyntaf y pryder y byddai Ysbyty Tregaron yn cau

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Ddiwedd mis Gorffennaf eleni, cyhoeddwyd stori o’r enw Cau Ysbyty Tregaron ar Caron360.

Ychydig ddyddiau’n gynharach clywodd staff yr ysbyty cymunedol ar Heol Dewi am fwriad Bwrdd Iechyd Hywel Dda i ystyried cau Ysbyty Tregaron ym Mis Medi eleni.

Ar ôl clywed y si aeth un o ohebwyr bro gwirfoddol Caron360 – Gwion James – i ymchwilio ymhellach a chanfod bod gwirionedd i’r stori. Roedd ymgynghoriad ar y gweill, ac fe rannodd ddolen i dudalen adborth ‘Have your say’ gan annog pobol leol i ymateb i’r ymgynghoriad.

Denodd y stori sylw’r Aelod o’r Senedd, a drefnodd gyfarfod brys gyda’r Bwrdd Iechyd wedi iddi glywed y gallai’r ysgol gau.

Yr wythnos hon, cafwyd cadarnhad bod y bwrdd iechyd wedi penderfynu cau’r naw gwely yn yr ysbyty.

Diolch Gwion a chriw Caron360 am ohebu ar faterion lleol pwysig.

Dweud eich dweud