Sut gallwn ni greu gŵyl neu ddigwyddiad lleol sy’n gynaliadwy?

Ymbweru Bro yn lansio cyfres podlediadau newydd o’r enw Plannu Hedyn

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Mae cyfres podlediadau newydd wedi’i lansio heddiw, er mwyn rhannu syniadau a hwyluso pethau i arweinwyr yn ein cymunedau.

Plannu Hedyn ydy enw’r podlediad sy’n rhan o weithgarwch prosiect Ymbweru Bro gan gwmni Golwg.

Mae’n trin a thrafod elfennau pob dydd o weithredu ar lawr gwlad, a bydd pob pennod yn taclo her wahanol grynhoi syniadau a phrofiadau gan bobol o wahanol gymunedau.

Mae’r heriau sy’n cael eu trafod yn aml yn gyffredin ar draws cymdogaethau cefn gwlad a thu hwnt. Yn y bennod gyntaf, yr her sy’n wynebu criw Clotas yng Nghribyn ydy sut gallant greu gŵyl leol newydd sy’n gynaliadwy.

Yn ffodus, mae sawl ffordd o’i gwneud hi, ac rydym yn clywed gan drefnwyr sydd wedi mynd ati mewn ffyrdd gwahanol i gynnal digwyddiadau amrywiol – o Ŵyl Cynhaeaf Arall yng Nghaernarfon i Ŵyl y Castell yn Aberystwyth, ac o Gŵyl Cefni i Ŵyl Gogogoch ar Ynys Môn.

Gwrandwch ar bennod 1 Plannu Hedyn heddiw i glywed llu o syniadau defnyddiol.

Tanysgrifiwch i’r gyfres ar eich platfform podlediadau, rhannwch gyda’ch cyfeillion, a chysylltwch i roi gwybod beth oeddech chi’n meddwl o’r bennod.

Mae Plannu Hedyn yno i hwyluso pethau i bawb sy’n brysur yn gweithredu’n eu bro.

Pennod 1: Croeso i’r Ŵyl

Hyd: 41 munud

Ar gael ar: Spotify, Apple ac Y Pod

Diolch i Gronfa Gymunedol y Loteri a rhaglenni Grymuso Gwynedd a Balchder Bro gan Menter Môn am gefnogi’r gyfres gyntaf.