Eisteddfod Clybiau Ffermwyr Ifanc Eryri, ble y cewch ganu emyn a gwisg ffansi jiráff yn yr un adeilad!
Cynhaliwyd Eisteddfod Clybiau Ffermwyr Ifanc Eryri yng Nghricieth ar yr 19eg o Hydref yn Neuadd Cricieth. Bu unarddeg clwb yn cystadlu’n frwd ar draws 24 o eitemau amrywiol. Roedd ansawdd y cystadlu a welwyd o gychwyn hyd at ddiwedd y diwrnod yn ardderchog, a braf oedd gweld aelodau o bob oedran yn cystadlu’n unigol, fel parau ac mewn grwpiau.
Gefn llwyfan roedd bwrlwm a chyffro wrth i bawb baratoi i gystadlu, yn wir mae eisteddfod y ffermwyr ifanc yn un unigryw, gyda gwisgoedd na chaiff eu defnyddio mewn unrhyw eisteddfod arall. Ni welsoch erioed y fath anhrefn â sydd i’w gael yn ystafell ymarfer y ffermwyr ifanc.
Fe aeth canlyniadau i bob cwr o’r sir eleni, gyda chymysgedd dda o glybiau yn dod i’r brig. Llwyddiant ddaeth i Lanrwst yn y dawnsio disgo, a Cadi o glwb Porthdinllaen gipiodd y wobr gyntaf yn yr unawd alaw werin dan 28. Rowen oedd yn fuddugol yn y gystadleuaeth Codi Hwyl, a Pharti Llefaru Y Rhiw lwyddodd i ennill y gystadleuaeth. Deuawd Ddoniol Godre’r Eifl serennodd yn y deuawdau/driawdau doniol, a pharti deusain Dyffryn Madog lenwodd y neuadd gyda sain anhygoel yn y gystadleuaeth Parti Deusain. Gwydion o glwb Ysbyty Ifan ddaeth yn fuddugol yn y gystadleuaeth cerdd dant, a llwyddiant ddaeth i Catrin o glwb Llangybi yn yr Unawd dan 28. Dyffryn Nantlle oedd yn llwyddiannus yn y Meim, a Cian o glwb Dyffryn Ogwen ddaeth yn ail yn yr Unawd dan 17, gyda Non o glwb Caernarfon yn fuddugol yn yr Unawd allan o sioe gerdd/ffilm. I weld yr holl ganlyniadau ewch i dudalen Facebook y sir – Clybiau Ffermwyr Ifanc Eryri.
Llongyfarchiadau enfawr i Nanw Swyn ac Angharad Rhys am ddod yn fuddugol yng nghystadleuaeth y Gadair a’r Goron. Bu i Nanw Swyn o glwb Llanrwst ennill y gadair gyda cherdd ac Angharad Rhys o glwb Godre’r Eifl ennill y goron gyda darn o ryddiaith. Llongyfarchiadau gwresog i’r ddwy.
Ar ddiwedd holl gystadlu’r diwrnod, dychwelyd i Langybi mae tarian y buddugwyr wedi seibiant byr, llongyfarchiadau mawr i glwb Llangybi! Yn ail oedd clwb Rowen, ac yn drydydd clwb Godre’r Eifl.
Nid yw ymarferion a pharatoadau yn dod i ben i bymtheg eitem fydd yn mynd lawr i Sir Gar ar gyfer cynrychioli’r sir yn Eisteddfod Cymru ar yr 2il o Dachwedd. Pob lwc i bob un sy’n ymgymryd â’r daith lawr yr A470, rhowch Eryri ar y map!
Diolch yn fawr i bawb fu’n helpu i drefnu’r Eisteddfod ac i bob swyddog a stiward oedd yn rhan o rediad esmwyth y diwrnod. Gyda diolch arbennig hefyd i holl noddwyr y diwrnod.
Mae lluniau arbennig i’w trysori ar gael ar wefannau cymdeithasol y sir a’r clybiau, gydag ambell fideo o berfformiadau i’w gweld hefyd, byddwch yn siŵr o fynd i fusnesu!
Tan tro nesa’,
Lois Caerloda