Blas o’r bröydd 4 Tachwedd 2024

straeon o’r gwefannau

gan Bethan Lloyd Dobson

Dyma i chi flas o’r straeon sydd wedi’u cyhoeddi gan bobl y filltir sgwâr, am eu milltir sgwâr, ar rwydwaith y gwefannau bro yn yr wythnos ddiwethaf…

Hanner Tymor Prysur yn Ysgol Bro Lleu

Ar DyffrynNantlle360 cewch holl hanes prysurdeb Ysgol Bro Lleu ers mis Medi. Mae un o’r dosbarthiadau wedi cael andros o lwyddiant yn actio cymeriadau o’r Mabinogi ar gyfer eu ffilm ‘Ble mae Lleu?’

Ffilmio 'Ble mae Lleu!?'

Hanner Tymor Prysur yn Ysgol Bro Lleu

Iwan Wyn Taylor

Mae hi wedi bod yn ddechrau blwyddyn ysgol llawn bwrlwm ym Mro Lleu…

Llwyddiant CFfI Caerwedros yn yr Eisteddfod Sirol

Ar Cwilt360 gan Jano Wyn Evans cewch hanes bwrlwm cystadlu‘r clwb yn yr eisteddfod sirol. Daeth llwyddiant i ran sawl unigolyn a grŵp, o sioe gerdd i ensemble, ac o sgets i’r ddeuawd/triawd doniol.

Wyneb cyfarwydd yn ôl ar lwyfan Theatr Fach Llangefni

Ar Môn360 cewch ddarllen am holl baratoadau’r theatr ar gyfer eu Panto Nadolig, a chyfle i roi enw i’r ‘Dame’ er mwyn dathlu fod un o ffyddloniaid y theatr; Dic, yn dychwelyd i’r llwyfan.

Wyneb cyfarwydd yn ôl ar lwyfan Theatr Fach Llangefni

Theatr Fach Llangefni

Mae ’na wyneb cyfarwydd yn dychwelyd eleni i fod yn rhan o gast pantomeim 2024 Theatr Fach Llangefni

Straeon lleol poblogaidd yr wythnos

Cynlluniau i ddiogelu hen Ysbyty Chwarel y Penrhyn. Ogwen360.

Hanes Y Bala mewn murlun. Tegid360.

Croeso i baned a chlonc yn Ysgol Cribyn. Aeron360.