Blas o’r bröydd 11 Tachwedd 2024

straeon o’r gwefannau

gan Bethan Lloyd Dobson

Dyma i chi flas o’r straeon sydd wedi’u cyhoeddi gan bobl y filltir sgwâr, am eu milltir sgwâr, ar rwydwaith y gwefannau bro yn yr wythnos ddiwethaf…

Diwedd cyfnod ym Mwyty’r Garden

Ar BangorFelin360 gan Howard Huws cewch hanes y bwyty ers iddo gael ei sefydlu yn 1985 gan Andrew ac Alice Lui.

Llun-Andrew-ac-Alice-Lui

Cau bwyty’r Garden wedi 40 mlynedd.

Howard Huws

Cau bwyty’r “Garden”, un o sefydliadau Cantonaidd mwyaf adnabyddus Cymru.

Ras 10k Aber yn dychwelyd ac yn cefnogi elusen leol

Ar BroAber360 gan Deian Creunant cewch ddarllen am drefniadau ar gyfer y ras arbennig hon sy’n cymryd lle ar 1 Rhagfyr.

Ras 10k Aber yn dychwelyd ac yn cefnogi elusen leol

Deian Creunant

Mae un o’r rasys pwysicaf yn y calendr athletau lleol yn ei hôl

Atgyfodi Darlith Goffa Islwyn Ffowc Elis ganrif ers ei eni

Ar Clonc360 gan Lowri Jones cewch wybod mwy am y Ddarlith Goffa sy’n cymryd lle nos Iau 14 Tachwedd yn Festri Capel Brondeifi am 7 yr hwyr. Mynnwch docyn.

Atgyfodi Darlith Goffa Islwyn Ffowc Elis ganrif ers ei eni

Lowri Jones

Yr Archdderwydd Mererid Hopwood fydd yn dod i Lanbed i draddodi’r ddarlith eleni

Straeon lleol poblogaidd yr wythnos

Cyflwyno siec i gael diffibriliwr newydd yn Neuadd Ciliau Aeron. Aeron360

Anturiaethau Athrawes o Langefni yn yr Andes. Môn360

Noson Siopa Hwyr – Dolig Gwyrdd yn Warws Werdd. Caernarfon360