Blas o’r bröydd 30 Medi 2024

Straeon o’r gwefannau bro

gan Bethan Lloyd Dobson

Dyma i chi flas o’r straeon sydd wedi’u cyhoeddi gan bobl y filltir sgwâr, am eu milltir sgwâr, ar rwydwaith y gwefannau bro yn yr wythnos ddiwethaf…

Cofio Ciliau Parc💙

Cyn hir bydd drysau Ysgol Ciliau Parc yn cau a drysau ysgol newydd Dyffryn Aeron yn agor. Ar Aeron360 gan Ffion Evans. cewch wybodaeth am yr holl ddigwyddiadau sy’n cymryd lle i ddathlu hanes yr hen ysgol fach cyn i’w thymor olaf ddod i ben.

Cofio Ciliau Parc💙

Ffion Evans

Digwyddiadau Dathlu Hanes Ysgol Ciliau Parc

Gigs Lleol Llanrug

Ar BroWyddfa360 gan Nel Pennant Jones cewch hanes gwaith Donna Taylor yn trefnu gigs Cymraeg yn nhafarn Penbont, Llanrug, gyda’r elw’n mynd i elusennau lleol.

Dona-ag-Dafydd-Iwan

Gigs Lleol Llanrug

Nel Pennant Jones

Cwestiwn ag Ateb gyda Donna Taylor

Nodi Diwrnod Heddwch Rhyngwladol ar Fynydd Epynt

Ar BroAber360 gan Gôr Gobaith cewch hanes cyfarfod Cymdeithas y Cymod ar Fynydd Epynt i ddangos eu cenogaeth am heddwch a’u cais i ddychwelyd y tir i bobl Cymru.

IMG_20240921_141712

Nodi Diwrnod Heddwch Rhyngwladol ar Fynydd Epynt

Côr Gobaith

Digwyddiad wedi’i drefnu gan Gymdeithas y Cymod a Heddwch ar Waith

Straeon lleol poblogaidd yr wythnos

  1. Cylch Meithrin Tregaron yn agor ei ddrysau’n swyddogol. Caron360.
  1. Siom i olffwyr Y Bala yn  rownd derfynol Pencampwriaeth Golff Gogledd Cymru. Tegid360.
  1. Y label recordiau Fflach yn trosi i fod yn Fflach Cymunedol. BroCardi360.

Dweud eich dweud