Blas o’r bröydd 9 Medi 2024

Newyddion y gwefannau

gan Bethan Lloyd Dobson

Dyma i chi flas o’r straeon sydd wedi’u cyhoeddi gan bobl y filltir sgwâr, am eu milltir sgwâr, ar rwydwaith y gwefannau bro yn yr wythnos ddiwethaf…

Chapeau Stevie Williams

Ar BroAber360 gan Huw Llywelyn Evans cewch hanes Stevie Williams o Gapel Dewi ar ennill y Tour of Britain 2024. Y cyntaf o wledydd Prydain i ennill y ras ers 2016.

Stevie Williams yn ennill y Tour of Britain

Chapeau Stevie Williams

Huw Llywelyn Evans

Blwyddyn wych Stevie’n parhau yn y Tour of Britain

Carbage Run yn teithio drwy ein hardal ni

Ar Tegid360 gan Lowri Rees Roberts  cewch hanes y Carbage Run aeth heibio ardal Y Bala a Chorwen ar daith arbennig oedd yn digwydd rhwng Awst 25 a 29. Roedd y Carbage Run 2024 yn daith ffordd 5 diwrnod drwy rannau o Gymru a Lloegr mewn hen gar sydd werth 1,000 ewro neu lai.

Sioe Bwlch-Llan

Ar Caron360 gan Meleri Morgan cewch hanes Sioe Bwlch- Llan. Mae dydd Sadwrn cyntaf mis Medi yn ddyddiad blaenllaw yn nyddiaduron trigolion Bwlch-Llan gan fod y Sioe flynyddol yn cael ei chynnal yn festri y Capel. Roedd llond y festri o flodau, cynnyrch gardd, gwaith llaw a choginio.

Sioe Bwlch-Llan

Meleri Morgan

Hanes sioe Bwlch-llan 2024

1 Hanes a lluniau Sioe flynyddol Rhydypennau ar BroAber360.

2 Elusen cyn-filwyr yn elwa o haelioni Eglwys yn Llanbed ar Clonc360.

3 Band C E L A V I o Fangor yn perfformio yn y lleoliad eiconig Cart + Horses yn Llundain, cartref i’r band metal trwm Iron Maiden. BangorFelin360