Dyma i chi flas o’r straeon sydd wedi’u cyhoeddi gan bobl y filltir sgwâr, am eu milltir sgwâr, ar rwydwaith y gwefannau bro yn yr wythnos ddiwethaf…
Gemau ‘Olympaidd’ Ciliau Aeron 1934
Ar Aeron360 gan Alun Bont Jones cewch hanes hynod ddifyr am dwrnament chwaraeon gymrodd le ym mhentref Ciliau Aeron yn ystod haf 1934. Roedd rhai cystadlaethau yn dra gwahanol bryd hynny, megis ras sigaréts a dyfalu pwysau dafad!
Clwb Ffermwyr Ifanc Llanddewi Brefi
Mae Mari Edwards ar Caron360 yn rhoi hanes bwrlwm prysurdeb y clwb, o Gyfarfod Diolchgarwch i ymarferion barnu biff a holl gystadlu’r Eisteddfod Sir.
Clwb Ffermwyr Ifanc Llanddewi Brefi
Ar Cwilt360 gan Gareth Ioan, cewch hanes cyfarfod arbennig yng Nghapel Pen-cae. Cyflwynwyd y Fedal Gee i Enid Jones am wasanaeth o hanner canrif i’r Ysgol Sul.
Enid Jones a’i Medal Gee
Straeon lleol poblogaidd yr wythnos
Dwy yn codi £25,300 mewn dawns elusennol, raffl ac arwerthiant ar gyfer Apêl Gerddi Ysbyty Tywysog Philip. Clonc360.
Eisteddfod lwyddiannus iawn i Glwb Ffermwyr Ifanc Dyffryn Nantlle. DyffrynNantlle360.
Dyffryn Caredig yn dathlu Wythnos Cludiant Cymunedol. Ogwen360.