Blas o’r bröydd 26 Awst 2024

Newyddion o’r gwefannau bro.

gan Bethan Lloyd Dobson

Dyma i chi flas o’r straeon sydd wedi’u cyhoeddi gan bobl y filltir sgwâr, am eu milltir sgwâr, ar rwydwaith y gwefannau bro yn yr wythnos ddiwethaf…

Clwb Rygbi Aberystwyth (Adran 1 Gorllewin) yn curo Clwb Rygbi Pwllheli (Adran 1 Gogledd) 29 – 20 mewn gêm gyfeillgar.

Gan Helen Davies ar BroAber360 cafwyd hanes  gêm a gafodd ei haflonyddu gan giciau o’r smotyn a cham-ddisgyblaeth. Roedd y ddwy ochr yn ei chael hi’n anodd ennill unrhyw fomentwm. Er hyn roedd y tîm cartref yn haeddiannol yn ennill gan ddangos sgiliau da mewn chwarae agored.

Aduniad teimladwy yn Llambed

Mared Anthony ar Clonc360  sy’n rhoi hanes aduniad  cyn-fyfyrwyr Coleg Prifysgol Dewi Sant. Cyfle i hen ffrindiau i hel atgofion am eu dyddiau ym Mar yr Undeb a’r gymuned glos a wnaeth eu blynyddoedd prifysgol yn fythgofiadwy.

Aduniad teimladwy yn Llambed

Mared Anthony

Llifodd ffrwd o gyn-fyfyrwyr hiraethus, eiddgar i gampws Llambed Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Llyfrgell y Petha Dyffryn Ogwen ar agor nawr!

Gan Abbie Jones ar Ogwen360 cawn hanes Llyfrgell y Petha’. Prosiect rhwng Partneriaeth Ogwen, Llyfrgelloedd Gwynedd a Benthyg Cymru i ddarparu’r gwasanaeth effeithlon, lle mae’n bosib benthyg teganau a phecynnau crefft o Lyfrgell Gymunedol Dyffryn Ogwen!.

Llyfrgell y Petha Dyffryn Ogwen ar agor nawr!

Abbie Jones

Ydych chi’n edrych am ffordd i gadw’r plant yn brysur am ddim dros yr haf?

traeon lleol poblogaidd yr wythnos

1 . Hanes gemau pêl-droed Clwb Y Felinheli gan Gwilym John ar BangorFelin360

  1. Gwahoddiad i ail fyw Breuddwyd Roc a Rôl Cymru gan Delyth Thomas ar Tegid360
  2. Hanes Sioe flynyddol Penrhyn-coch gan Richard Owen ar BroAber360

Dweud eich dweud