Blas o’r bröydd 19 Awst 2024

Newyddion o’r gwefannau bro

gan Bethan Lloyd Dobson

Dyma i chi flas o’r straeon sydd wedi’u cyhoeddi gan bobl y filltir sgwâr, am eu milltir sgwâr, ar rwydwaith y gwefannau bro yn yr wythnos ddiwethaf…

Beth yn union sydd yn digwydd yn Llyn Celyn?

Ar Tegid360 gan Geraint Thomas ceir stori am yr hyn sy’n cymryd lle yn Llyn Celyn. Mae dros flwyddyn bellach ers i’r llwybr ar draws argae Celyn gau i’r cyhoedd, ac i’r gwaith gychwyn tu ôl i’r ffensys mawr haearn. Yn ôl Dwr Cymru mae’r gwaith yn rhan o brosiect fydd yn gweld gorlifan arloesol newydd yn cael ei chreu.

Beth yn union sydd yn digwydd yn Llyn Celyn?

Geraint Thomas

Mae peiriannau trwm a cryn brysurdeb yn mynd rhagddo – ond beth sydd yn digwydd?

Dymchwel Cartref Bodloneb

Cyflwynodd Mererid Boswell stori ar BroAber360 am fwriad Cyngor Sir Ceredigion i ddymchwel Cartref Bodlondeb.

Dymchwel Cartref Bodlondeb

Anfonwch sylwadau at y cynghorwyr cyn y 23ain o Awst

312 o gartrefi heb drydan yn ardal Silian, Betws Bledrws a Llangybi

Yn ardal Clonc360 cafwyd stori gan Dylan Lewis am doriad yn y cyflenwad trydan yn ardaloedd Silian, Betws Bledrws a Llangybi a effeithiodd ar rhwng 300 ac 800 o gartrefi.

54916D1A-9231-49EF-B1C2-7E73F52067FF

312 o gartrefi heb drydan yn ardal Silian, Betws Bledrws a Llangybi

Dylan Lewis

Problem foltedd uchel yn achosi toriadau trydan yn yr ardal

Straeon lleol poblogaidd yr wythnos

  1. Ail fuddugoliaeth o’r tymor i Dîm Pêl-droed Felinfach gan Aled Bont Jones ar Aeron360
  1. Diwrnod  gwych o werthiant ym Mart Llanybydder gan Ffion Caryl Evans ar Clonc360
  1. Prysurdeb Cludiant Cymunedol Partneriaeth Ogwen gan Huw Davies ar Ogwen360