Blas o’r bröydd 16 Medi 2024

Straeon o’r gwefannau

Dyma i chi flas o’r straeon sydd wedi’u cyhoeddi gan bobl y filltir sgwâr, am eu milltir sgwâr, ar rwydwaith y gwefannau bro yn yr wythnos ddiwethaf…

Ar BangorFelin360 gan Sarah Wynn Griffiths cewch hanes y band nu-metal | metal | goth | nu-emo C E L A V I o Fangor fu’n perfformio yn y lleoliad eiconig Cart & Horses yn Llundain, sef cartref y band metal trwm Iron Maiden.

Ar DyffrynNantlle360 gan Llio Elenid cewch holl hanes a chanlyniadau Sioe Y Groeslon.  Roedd hi’n ddydd Sadwrn braf iawn a’r neuadd yn llawn ac yn fôr o liw. Cafwyd gwledd o lysiau, blodau, potiau jam, brodwaith, celf a chrefft a chacennau yn y neuadd.

WhatsApp-Image-2024-2

Sioe Y Groeslon 2024

Llio Elenid

Sioe flynyddol penigamp yn Y Groeslon ar ddydd Sadwrn, Awst 24

Ar Môn360 gan Catrin Angharad cewch hanes y seremoni flynyddol sy’n dathlu’r goreuon o fyd y sgrîn fach, gyda sawl wyneb enwog yn camu ar y llwyfan i gyflwyno neu dderbyn gwobr. Ond, pwy hawliodd sylw’r  gwylwyr, fwy na neb, ym Môn a Chymru gyfan? Neb llai na Mr Noel Thomas, cyn is-bostfeistr y Gaerwen a ffrind i nifer.

Noel a’r NTA’s

Catrin Angharad Jones

Cyn is-bostfeistr Gaerwen yn camu ar lwyfan y ‘National Television Awards’

Straeon lleol poblogaidd yr wythnos

  1. Arddangosfa gan artist arbennig iawn Clyde Holmes, yn Oriel Cantref. Tegid360
  2. Y band Cymraeg Fleur de Lys mewn gig teuluol yn Neuadd Goffa Amlwch, Ynys Môn. Môn360.
  3. Hanes a chanlyniadau gemau rygbi. Aeron360.

Dweud eich dweud