Blas o’r bröydd 12 Awst 2024

Newyddion lleol

gan Bethan Lloyd Dobson

Dyma i chi flas o’r straeon sydd wedi’u cyhoeddi gan bobl y filltir sgwâr, am eu milltir sgwâr, ar rwydwaith y gwefannau bro yn yr wythnos ddiwethaf…

‘Pont rhwng hanes a lle’: Ymgyrch grŵp o Eryri i atgyfodi enwau caeau.

Ar BroWyddfa360 ceir stori hynod ddifyr gan Rhiannon Jenkins am brosiect Stori’r Tir gan Grŵp Dyffryn Peris. Ei fwriad yw hybu perthynas cymuned gyda’r tir a’r iaith Gymraeg drwy ddysgu am hanes y tirwedd.

Map bras o enwau’r caeau yn Nant Peris, wedi ei ddylunio gan Lindsey Colbourne

‘Pont rhwng hanes a lle’: Ymgyrch grŵp o Eryri i atgyfodi enwau caeau

Lindsey Colbourne

Mae grŵp cymunedol o Eryri wedi lansio prosiect creadigol i atgyfodi enwau caeau’r ardal Nant Peris.

 

Drysau tafarn y Cross Hands yn Llanybydder yn ail agor

Gan Gwyneth Davies ar Clonc360 cewch stori am newyddion da o lawenydd mawr o glywed bod y Cross Hands yn Llanybydder yn ail agor ar ôl bod ar gau am gyfnod. Yn ystod yr wythdegau, roedd wyth tafarn yn Llanybydder ond erbyn hyn, mae’r Highmead, y Vale of Teifi, y Llew Du a’r Gwrdy wedi eu trosi’n dai.

 

Cwt Piclo Dyffryn Nantlle

Yna ar DyffrynNantlle360 a hynny gan Sion Hywyn Griffiths, cewch hanes criw newydd yn Nyffryn Nantlle sy’n mynd ati i ddysgu am sut mae pobl wedi cadw bwyd ers talwm ac i gyflwyno ffyrdd a thraddodiadau newydd o biclo, bragu a ffermentio bwyd.

Trey_Piclo-1024x768-1

Cwt Piclo Dyffryn Nantlle

Sion Hywyn Griffiths

Hanes criw sy’n cyfarfod i ddysgu am ddulliau cadw bwyd.

 

Straeon lleol poblogaidd yr wythnos

  1. Nest Jenkins o Ledrod yn ennill Gwobr Goffa Llwyd o’r Bryn yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd, gan Enfys Hatcher Davies ar Caron360.
  2. Merched Sarn Helen yn ennill cystadleuaeth Côr Llefaru dros 16 mewn nifer yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf ym Mhontypridd, gan Dylan Lewis ar Clonc360.
  3. Llinos Davies ac Eryl Jones yn cael eu hanrhydeddu yn y Genedlaethol, gan Dylan Lewis ar Clonc360.