Beth sy’n gwneud eisteddfod dda?
Safon y rhai sy’n ymgiprys am y gwobrau hael neu ddim mor hael Y beirniaid coeth, sylwgar, adeiladol? Y beirniaid sydd braidd yn rhy hoff o glywed eu lleisiau eu hunain a thraddodi ar bob camwedd o’r nodyn cyntaf i’r olaf? Neu beth am amser gorffen, mae cynnal eisteddfod sy’n parhau hyd yr oriau mân yn wyrth yn ei hun gan ystyried mai llai sy’n cystadlu mewn amryw le y dyddiau hyn?
Ond beth am ystyried elfen bwysig arall, sydd i rai yn holl bwysig – y lluniaeth.
Fe welir yn aml ar y rhaglen y bydd darpariaeth ar gael am bris rhesymol. Pwy sy’n penderfynu beth yw pris rhesymol beth bynnag? A pham, medde chi, nad yw pob eisteddfod yn darparu beth bynnag?
Fyddwn i ddim yn meiddio enwi unrhyw eisteddfod rhag i mi gael achos llys yn fy erbyn ond rhaid i mi rannu ychydig o friwsion o brofiad diweddar.
Yn ffodus rwyf wedi cael cyfle i fynychu sawl eisteddfod leol (nid bach) yn y blynyddoedd diwethaf a chael profiadau gwahanol ymhob lle. Cwpanaid a chacen wedi darparu i fi a’m cydymaith yn unig ynghanol neuadd yn ystod cystadleuaeth ar ôl y seremoni. Dyna beth oedd codi ofn ar rywun. Beth petawn wedi cwympo’r cwpan a’i dorri’n deilchion a gwneud sŵn ynghanol her unawd dawel?
Ond mae dwy eisteddfod yn sefyll allan i mi, fel mae’n digwydd, un yn y gogledd a’r llall yn y gorllewin.
Un yn darparu plât gwag i’w lenwi â danteithion o amryw ddysgl o fwyd oer a chigoedd a hyd yn oed pwdin i ddilyn. Y llall wedyn gyda’r fath ddewis o gacennau a phwdinau roedd yn amhosib dewis ond un. Bu hwnnw yn fwy o dreth nag ysgrifennu’r gerdd yn y lle cyntaf.
Ta beth, rwy’n ddiolchgar am beth bynnag a ddaw i’m ceg!